Mae GO Wales yn brosiect a ariennir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop a Llywodraeth Cymru. Mae’n gweithredu o dan fframwaith Thema 2, Blaenoriaeth 3 Cydgyfeirio’r Gronfa. O fewn y fframwaith hwnnw, nod GO Wales yw cefnogi lleoliad, datblygiad a chadw sgiliau lefel uchel, gwybodaeth a photensial arloesol graddedigion mewn busnesau yng Nghymru.
Rydym yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau i helpu busnesau i recriwtio a chadw staff graddedig. Mae’n bosibl i’ch busnes chi elwa o gynnig profiad gwaith gwaith i fyfyriwr neu raddedigion, manteisiwch ar yr arian ar gyfer cefnogi hyfforddiant staff, cewch recriwtio myfyrwyr neu raddedigion drwy leoliad gwaith neu hysbysebwch swydd wag yn rhad ac am ddim.
Mae miloedd o fusnesau Cymru eisoes wedi manteisio ar raglen GO Wales.
Mae Cronfa Hyfforddi a Datblygu Graddedigion GO Wales yn cynnig cefnogaeth ariannol ar gyfer hyfforddi a datblygu staff lefel graddedig mewn SME yng Nghymru. Mae'n bosibl y gallwch gael mynediad at hyd at £1,500 y person er mwyn uwchsgilio eich busnes.
Mae Lleoliadau Gwaith GO Wales yn rhoi cyfle i chi ddenu'r myfyrwyr a'r graddedigion gorau i'ch busnes. Cyflogwch unigolyn medrus i weithio ar brosiect byrdymor a derbyn cymhorthdal tuag at y cyflog.
Swyddi Graddedig yw'r unig wefan recriwtio graddedigion am ddim yng Nghymru. Gall busnesau a sefydliadau eraill yng Nghymru fanteisio ar ein gwasanaeth hysbysebu swyddi ar-lein er mwyn hysbysebu eu swyddi.
Mae Blas Ar Waith GO Wales yn hyblyg dros ben, gyda'r amcan o ddarparu myfyrwyr a graddedigion newydd â 'blas' ar yrfa arbenigol neu awyrgylch gwaith.
Mae cynllun a gefnogir gan y llywodraeth, sydd wedi helpu bron 6,500 o raddedigion i chwilio am gyflogaeth graddedig, wedi...