Rory Wilson
Sefydliad: Catalina Architecture
Gwnaeth Rory Wilson, sef Cyfarwyddwr Catalina Architecture Ltd yn Aberystwyth, gais i’r Gronfa Hyfforddi a Datblygu Graddedigion i ymgymryd â Diploma Ôl-raddedig mewn Amgylchedd Hanesyddol.
Stiwdio dylunio breifat yw Catalina Architecture sy’n arbenigo mewn cadwraeth adeiladau hanesyddol a dylunio cyfoes.
Gwnaeth Rory gais am yr hyfforddiant yn y gobaith o ddatblygu ei sgiliau i sicrhau tendrau newydd ar gyfer prosiectau ac i ennill mantais gystadleuol ar gyfer y busnes. Mae'n egluro:
“Mae'r cwrs wedi galluogi'r busnes i wneud cyflwyniadau priodol i gleientiaid newydd, y mae eu gofynion penodol yn ymwneud â chadwraeth adeiladau hanesyddol. Yn gyffredinol mae'n cymryd rhywfaint o amser i gysylltiadau newydd ddatblygu i fod yn brosiectau byw, ond mae’r arwyddion yn gadarnhaol iawn hyd yn hyn.
“Mae'r wybodaeth a ddysgais drwy'r cwrs wedi fy ngalluogi i arwain fy nghydweithwyr mewn materion yn ymwneud â phriodoldeb a thechnegau o ran adeiladau hanesyddol a materion cyd-destun.
“Ar ôl gwneud y cysylltiad cychwynnol gyda GO Wales, roedd y broses yn syml iawn. Roedd fy nghyswllt gyda GO Wales yn effeithlon iawn a rhoddodd y tîm arweiniad da. Hoffwn ddiolch i GO Wales am wneud y gwahaniaeth ariannol a’m galluogodd i wneud y cwrs, ac felly am roi budd sylweddol i'r busnes, sydd o ganlyniad yn edrych ar ddyfodol disglair ac ar ehangu.
“O ganlyniad i’r cwrs, ac yn benodol yr hyder y mae cleientiaid posibl wedi’i ddangos yn y busnes o ganlyniad, rydym wedi cyflogi aelod staff rhan-amser ychwanegol.”