Rhys Fowler
Sefydliad: NoFit State Circus
Mae Rhys Fowler yn gyfrifol am weithgaredd strategol a marchnata gweithredol prif syrcas gyfoes y DU, sef NoFit State. Yn ddiweddar, gwnaeth y cwmni gais am arian gan GO Wales i ddatblygu sgiliau Rhys hyd yn oed ymhellach drwy Ddiploma Proffesiynol y Sefydliad Marchnata Siartredig.
Dywedodd Rhys;
“Roeddwn wrth fy modd i dderbyn swydd farchnata gyntaf y cwmni yn Awst 2011 gan ei bod yn cynnig ymdeimlad o ryddid mawr i mi. Cefais y cyfle godidog o allu ffurfio strategaethau tymor hir, penodi asiantaethau newydd a gweithwyr llawrydd a’r peth mwyaf cyffrous o’r cyfan - cysylltu â chynulleidfaoedd hynod ffyddlon ac ymroddgar NoFit State.”
“Penderfynais ddilyn Diploma Proffesiynol y Sefydliad Marchnata Siartredig i’m helpu i adeiladu’r hyder a’r sgiliau i feddwl yn strategol a chynllunio yn y tymor hir.
“Roedd proses cyflwyno’r cais yn wirioneddol hawdd – roedd y ffurflenni’n syml ac roedd tîm GO Wales yn wych; yn gyfeillgar a pharod iawn eu cymwynas!”
Mae’r Cyfarwyddwr Gweithredol, Alison Woods, yn credu y bydd sgiliau newydd Rhys yn amhrisiadwy i’r cwmni, a dywedodd:
“Fel sefydliad sy’n cael ei ariannu gan Gyngor y Celfyddydau mae gan NoFit State gyfrifoldeb i fentora sefydliadau eraill yn y celfyddydau a bydd y cwrs hwn yn rhoi’r hyder i Rhys i gyflawni hyn.”
“Ar hyn o bryd mae Rhys yn cynnal trosolwg strategol o weithgareddau cyfathrebu a marchnata’r cwmni a bydd y sgiliau a ddatblygwyd ar y cwrs hwn yn helpu i gyflawni hyn. Bydd ymgynghoriaeth allanol hefyd yn llai o ganlyniad i’r sgiliau marchnata y bydd yn eu cael ar y cwrs hwn.”