Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i helpu i ddarparu nodweddion penodol. Gallwch gyfyngu neu rwystro’r defnydd o gwcis gan ddefnyddio gosodiadau ar eich porwr gwe.
Mae’r tabl isod yn esbonio beth yw’r cwcis rydym ni’n eu defnyddio a pham.
| Cwci | Enw | Diben | Mwy o wybodaeth |
|---|---|---|---|
| Google Analytics | _utma _utmb _utmc _utmz |
Defnyddir y cwcis hyn i gasglu gwybodaeth am y ffordd y mae ymwelwyr yn defnyddio ein safle, ac rydym yn defnyddio’r wybodaeth i’w gwella. Mae’r cwcis yn casglu gwybodaeth mewn ffurflen ddienw, gan gynnwys nifer yr ymwelwyr â’r safle, o ble y mae’r ymwelwyr wedi dod i’r safle, a’r tudalennau y maen nhw wedi edrych arnynt. | Cliciwch yma i weld trosolwg o breifatrwydd Google |
| Cwcis hanfodol safle | ASP.NET_SessionId | Mae’r cwci hwn yn hanfodol ar gyfer cyfleusterau’r wefan ac yn cael ei osod, er enghraifft, wrth chwilio a mewngofnodi. Dilëir y cwci hwn pan rydych yn cau eich porwr. | Ewch i wefan Microsoft |
| Cwcis hanfodol safle | .ASPXAUTH | Mae’r cwci hwn yn hanfodol ar gyfer cyfleusterau’r wefan ac yn cael ei osod wrth fewngofnodi i’r wefan. Dilëir y cwci hwn pan rydych yn cau eich porwr. | |
| AddThis | _atuvc | Crëir y cwci __atuvc a’i ddarllen gan safle rhannu cymdeithasol AddThis, JavaScript, ar ochr y cleient er mwyn gwneud yn siŵr bod y defnyddiwr yn gweld y cyfrif diweddaredig os ydyn nhw’n rhannu tudalen ac yn dychwelyd iddo cyn bod ein cyfrif rhannu dros dro’n cael ei ddiweddaru. Ni anfonir unrhyw ddata o’r cwci hwn yn ôl at AddThis, a byddai ei waredu wrth analluogi cwcis yn achosi ymddygiad annisgwyl i’r defnyddwyr. Mae’r cwci hwn yn dod i ben ar ôl 2 flynedd. | Ewch i Ddatganiad Preifatrwydd AddThis |
Efallai y byddwn yn gosod "widget" o safleoedd cyfryngau cymdeithasol fel Twitter, Facebook neu Google+ ar ein safleoedd. Mae’r safleoedd hyn yn defnyddio cwcis i olrhain pwy sydd wedi mewngofnodi, a bydd yn gwybod manylion pa dudalennau ar ein safle sy’n defnyddio’r "widget".
Gallwch rwystro neu waredu cwcis ar y porwr. Gall rhwystro cwcis eich atal chi rhag cael mynediad at wasanaethau ar-lein GO Wales. Bydd gwaredu cwcis yn eich allgofnodi chi o sesiwn bresennol. Darganfyddwch sut i rwystro a rheoli cwcis ar All About Cookies.
Gallwch ddefnyddio’r modd "incognito" neu "private browsing" ar eich porwr gwe i gyfyngu ar y math o gwcis sydd wedi’u gosod, a sut y cânt eu defnyddio i olrhain. Mae hyn yn creu sesiwn newydd a byddwch yn edrych fel defnyddiwr newydd heb ei gysylltu â safleoedd eraill, er enghraifft, bydd safleoedd cyfryngau cymdeithasol yn eich gweld chi fel defnyddiwr wedi allgofnodi (oni bai eich bod chi’n mewngofnodi’n benodol iddyn nhw) a bydd Google Analytics yn eich gweld chi fel ymwelydd newydd.
Mae GO Wales wedi ymrwymo i warchod preifatrwydd ein defnyddwyr. Rydym eisiau rhoi profiad diogel a sicr i’n defnyddwyr. Fe wnawn bob ymdrech i ofalu bod y wybodaeth a roddwch i ni'n cael ei chadw'n breifat ac y caiff ei defnyddio'n unig i'r dibenion a ddisgrifir isod. Mae’r polisi canlynol yn adlewyrchu ein hymrwymiad i chi.
Yn gyffredinol rydym yn casglu gwybodaeth am ein holl ddefnyddwyr gyda’i gilydd, megis pa fannau y mae defnyddwyr yn ymweld â hwy amlaf a pha wasanaethau y maent yn eu defnyddio fwyaf. Rydym yn defnyddio data o’r fath yn eu cyfanrwydd, heb gyfeirio at unigolion. Mae’r wybodaeth hon yn ein helpu i benderfynu beth sydd fwyaf buddiol i’n defnyddwyr a sut y gallwn greu’n barhaus brofiad gwell drwodd a thro i’n defnyddwyr. Gallwn rannu’r wybodaeth hon â’n partneriaid, ond dim ond yn ei chyfanrwydd, fel y gallant hwythau hefyd ddeall sut mae ymwelwyr yn defnyddio safle GO Wales.
Mewn rhai achosion, megis pan fyddwch yn cofrestru â GO Wales, efallai y bydd arnom angen gwybodaeth fwy penodol amdanoch, fel enw, cyfeiriad, cyfeiriad e-bost, rhif ffôn, etc. Gallwn ddefnyddio’r wybodaeth honno i gysylltu â chi efallai.
Nid ydym yn datgelu gwybodaeth am eich ymweliadau unigol â GO Wales, na gwybodaeth bersonol a roddwch megis enw, cyfeiriad, cyfeiriad e-bost, rhif ffôn, i unrhyw bartïon allanol ac eithrio lle rydym yn credu bod angen hynny yn ôl y gyfraith. Ond gallwn gofnodi a rhannu gwybodaeth gyffredinol gyda’n partneriaid. Caiff ei defnyddio i ddibenion gweinyddol ac ystadegol mewnol a gallai gael ei harchwilio fel rhan o archwiliad UE neu Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Byddwn yn gofalu fod pob gwybodaeth bersonol a roddir yn cael ei chadw’n ddiogel, yn unol â Deddf Gwarchod Data 1998.
Mae unrhyw adborth a roddir trwy wefannau GO Wales yn dod yn eiddo GO Wales. Gallwn ddefnyddio’r adborth hwn, megis storïau llwyddiant er enghraifft, i ddibenion marchnata. Yn yr achos hwn gallwn gysylltu â chi i gael adborth pellach.
Os penderfynwn newid ein hymrwymiad preifatrwydd ar gyfer GO Wales, byddwn yn dangos y newidiadau hynny yma fel y byddwch yn gwybod bob amser pa wybodaeth rydym yn ei chasglu, sut y gallwn ddefnyddio’r wybodaeth honno, a ph’run a fyddwn yn ei datgelu ai peidio i unrhyw un. Os oes gennych gwestiynau neu bryderon unrhyw bryd am ymrwymiad GO Wales i breifatrwydd, mae croeso i chi anfon e-bost atom. Os oes gennych unrhyw bryderon ynglŷn â’r materion hyn, cysylltwch â info@gowales.co.uk.