Bydd y rhaglen lleoliadau gwaith i fyfyrwyr a graddedigion yn dechrau fis Mai. Yn ystod y cyfnod hwn bydd gan raglen GO Wales gannoedd o unigolion medrus sy'n astudio meysydd gradd o bob math ac am aros yng Nghymru er mwyn datblygu eu gyrfaoedd. Y llynedd, trefnodd GO Wales tua 700 o leoliadau gwaith mewn diwydiannau amrywiol ledled Cymru.
Fel arfer mae'r lleoliadau'n para tua deg wythnos a bydd myfyrwyr neu raddedigion yn cwblhau prosiect ar gyfer eich busnes. Mae Busnesau Bach a Chanolig yn gymwys i dderbyn £90 yr wythnos tuag at gostau cychwynnol cyflogi unigolyn drwy'r rhaglen (£230).
Mae GO Wales yn trefnu lleoliadau gwaith i fyfyrwyr yn ystod yr haf a lleoliadau i raddedigion gydol y flwyddyn.
Gallwn helpu i ddod o hyd i unigolion ar gyfer unrhyw brosiect sy'n addas i raddedigion; mae ein gwasanaethau recriwtio am ddim a byddwch yn cael cymorth gan ein Cydgysylltydd Lleoliad Gwaith i ganfod yr unigolyn gorau i chi.
Ymhlith prosiectau blaenorol mae: datblygu strategaeth farchnata, ymchwil amgylcheddol, peirianneg, Achrediad ISO, datblygu gwefannau. Mae yna bosibiliadau di-rif a gallwn eich helpu i ddatblygu prosiect a fydd o fudd i'ch busnes.