GO Wales

Newyddion GO Wales

Tîm City and Guilds GO Wales yn ehangu

Michael Hargreaves yw Swyddog Cefnogi Hyfforddiant City and Guilds newydd GO Wales. Mae Mike yn esbonio beth fydd ei rôl newydd yn golygu a sut y bydd hyn yn helpu i fod o fudd i fyfyrwyr, graddedigion a busnesau sy'n cymryd rhan mewn lleoliad gwaith GO Wales:

“Fy mhrif rôl yn y tîm yw cyfarfod â'r holl fyfyrwyr a graddedigion ar leoliadau GO Wales a'u hymsefydlu nhw ar Ddyfarniad Datblygiad Proffesiynol City and Guilds. Golyga hyn fy mod yn teithio trwy Gymru gyfan yn rheolaidd.”

“Rydw i wedi cael fy synnu'n wirioneddol gan ansawdd y lleoliadau gwaith a'r myfyrwyr a graddedigion. Trwy fy nheithiau yn y swydd, rydw i wedi cyfarfod a gweithio gyda rhai busnesau bach cyffrous a dynamig iawn sydd wedi elwa'n fawr iawn o leoliadau gwaith GO Wales.”

“Un enghraifft arbennig sy'n sefyll allan yw'r myfyriwr graddedig mewn Rheoli Busnes, Laura. Ystyriodd ei lleoliad gyda Lizard Workwear and Safety fel cyfle i ymarfer y sgiliau a ddysgodd trwy astudio ym Mhrifysgol Abertawe.”

“Amcan y lleoliad oedd gwella'r gyfradd trawsnewid, trosiant a gweithgarwch ar siop we'r Storfa Ddiogelwch. Caniataodd y lleoliad Laura i ddatblygu sgiliau a dewrder busnes i'r fath raddau bod gwerthiant wedi cynyddu o 64.10% syfrdanol mewn ond naw wythnos. Yr amcan a roddwyd iddi oedd yn syml gwella gwerthiant 10%, sydd wir yn dangos yr effaith a gafodd Laura.”

“Bu Laura'n agored i nifer o agweddau o'r busnes ac mae'n deall bod busnesau bach yn llwyddo orau pan fod y staff yn benderfynol ac wedi'u hysgogi i gyflawni eu nodau yn y gweithle. Roedd hi hefyd wedi gallu adeiladu a datblygu ar amrywiaeth eang o ansoddau fel ymwybyddiaeth busnes cyffredinol a sut i reoli pobl mewn modd effeithiol.”

“Er i 2008 fod yn flwyddyn brysur i ni, rydym yn rhagweld y bydd 2009 hyd yn oed yn fwy ac yn well. Y llynedd, roeddem wedi bwriadu gweithio gyda 255 o ymgeiswyr, ond fe weithiom mewn gwirionedd gyda thros 370.”

“Rwy'n wirioneddol falch fy mod yn gweithio i frand adnabyddus a berchir fel GO Wales ac rwy'n gallu cael effaith bwysig ar ddatblygiad a dilyniant gweithwyr busnes proffesiynol yfory. Ar gyfer y rheiny ohonoch chi sy'n newydd i'r Dyfarniad, rwy'n sicr y byddwn yn cyfarfod rhyw bryd yn 2009 a gallwch weld manteision ac effaith myfyriwr neu unigolyn graddedig sy'n berson cyflawn ac yn ymwybodol o fusnes yn gweithio yn eich sefydliad.”

Share |