GO Wales

Newyddion GO Wales

Cymorth gyda manylebau swydd

Mae llawer o fusnesau bach yn croesawu’r ddynamiaeth, brwdfrydedd a dawn y mae graddedigion yn dod gyda hwy i’w busnes. Gall busnesau beidio â chael dealltwriaeth eglur o’u hunion anghenion, ac mewn ffordd, rhai y gall y rheiny sydd â diddordeb yn y swyddi gael mynediad atynt.

Mae hwn yn faes lle gall Cymorth Hyblyg i Fusnes (FS4B) fod o gymorth, Trwy weithio gyda pherchnogion y busnesau i ddatblygu disgrifiadau swydd / proffiliau rôl a manylebau person eglur a chryno, lle gall perchennog y busnes nodi eu disgwyliadau mewn modd y gellir ei ddeall gan ymgeiswyr posibl.

Mae FS4B yn rhoi cyngor rhad ac am ddim a chyfrinachol i berchnogion busnesau bach ynglŷn â hyn ac amrywiaeth o faterion cyflogaeth a busnes eraill. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar www.business-support-wales.gov.uk.

Pe bai angen cymorth ar unrhyw fusnes gyda datblygu disgrifiad swydd, neu gydag unrhyw gyngor cysylltiedig â busnes neu gyflogaeth, gall FS4B roi’r fath gyngor yn rhad ac am ddim i’r busnes. Gall busnesau wneud cysylltiad cychwynnol trwy ffonio 03000 6 03000. Bydd eu cais yn cael ei gyfeirio at ymgynghorydd lleol addas.

Share |