Mae Oliver Lee ar hyn o bryd ar leoliad gwaith GO Wales gyda Practical Innovations yn Abertawe. Mae wrthi’n datblygu’r brand presennol o ddosbarthwr ffrwythau Smart Slice drwy ailddylunio’r wefan a’r deunyddiau marchnata ar gyfer y cynnyrch arloesol hwn, sy’n anelu at wella’r ffordd mae diodydd yn cael eu gweini mewn bariau a chlybiau.
Mewn 4 wythnos yn unig mae’r brand ar ei ennill o gael gwefan ar ei newydd wedd a phortffolio o ddeunyddiau marchnata a ddefnyddir i ddatblygu a thyfu’r busnes.
Eglura Oliver:
“Ers dechrau’r lleoliad rwyf wedi cymryd y brand presennol a datblygu’n greadigol gwefan Smart Slice, yr hysbysebion yn y wasg, llawlyfr canllawiau, llyfrynnau gwybodaeth, labeli a phapur pennawd, gan alluogi i’r brand fod yn gyson drwyddo.”
Graddiodd Oliver mewn Dylunio Graffeg ond ei nod yw datblygu cynllun marchnata strategol i wneud i’r busnes dyfu yn ystod gweddill ei leoliad:
“Rwyf wedi datblygu system mewngofnodi i gleientiaid i’r cwsmeriaid presennol sy’n defnyddio’r wefan lle gallant gael mynediad at seminarau fideo sy’n ymdrin â thechnegau gwerthu a gwybodaeth am y cynnyrch, ac rwy’n bwriadu gweithio ar gynllun marchnata i ddenu cwsmeriaid potensial at y wefan gyda’r nod o gynyddu gwerthiant Smart Slice.”
Ers ailddatblygu gwefan Smart Slice mae diddordeb enfawr wedi bod yn y cynnyrch. Meddai Tim Jones Rheolwr Gyfarwyddwr Practical Innovations:
“Mae Oliver wedi bod yn gaffaeliad gwych i’r cwmni ac mae wedi cryfhau ein delwedd a’n hymwybyddiaeth brand y tu hwnt i’r hyn roeddwn i’n credu oedd yn bosibl. Ar nodyn personol, pleser yw ei gael o amgylch y swyddfa ac mae ei ymroddiad a’i frwdfrydedd dros y swydd fel chwa o awyr iach.”
Ychwanegodd Oliver:
“Dyma enghraifft ddelfrydol o gwmni roeddwn i’n teimlo y byddai ar ei ennill o’m profiad a’m proffesiwn fel dylunydd graffeg ymroddedig. Mae GO Wales wedi rhoi’r cyfle i mi arddangos fy sgiliau a datblygu fy ngalluoedd fel dylunydd graffeg ymhellach.”
Am fwy o wybodaeth am y Smart Slice, ewch i www.practical-innovations.com.