GO Wales

Newyddion GO Wales

Lansio cwrs newydd i raddedigion sydd am weithio yn annibynol yng Nghymru

Bellach gall graddedigion sy’n ymddiddori mewn gweithio’n llawrydd fanteisio ar gwrs hyfforddi newydd a lansiwyd gan GO Wales.

Mae Gweithwyr Llawrydd GO Wales yn cynnwys dau gwrs dros 3 diwrnod. Cyflwynir y cwrs gan dîm o ymgynghorwyr proffesiynol a gweithwyr llawrydd profiadol. Bydd y cwrs yn rhoi cyfle i raddedigion ddatblygu ystod o sgiliau gan gynnwys; cynllunio, rhwydweithio a gwneud cais am fusnes.

Does dim cost i gymryd rhan yn y cwrs sy’n cael ei noddi’n gyfan gwbl gan GO Wales.

Erbyn diwedd y cwrs bydd gan raddedigion Gynllun Gweithredu yn Llawrydd a fydd yn ei helpu i fynd ymlaen â’u syniadau busnes.

Bydd y cwrs hyfforddi’n dechrau ar 22 Hydref ym Mhrifysgol Morgannwg ac mae ar gael i raddedigion sy’n byw yng Nghymru ac sy’n newydd i’r byd llawrydd.

Mae hwn yn gyfle unigryw ac mae cyfyngiad ar y nifer felly cynghorir graddedigion sydd â diddordeb i wneud cais cyn gynted â phosibl.

Share |