Yn 2002 cyflogwyd Jayne Smith gan yr ymgynghorwyr busnes CIOTEK yn Abertawe ar leoliad gwaith ac fe’i gwnaed yn gyfarwyddwr y cwmni o fewn dwy flynedd. Bu gyda’r cwmni am wyth mlynedd ac enillodd gwobrau am ei gwasanaethau ymgynghorol ar gyfer busnesau.
Yn ddiweddar cafodd Jayne ei henwebu ar gyfer gwobr Seren y Flwyddyn /Rising Star of the Year gan Fenywod mewn Busnes Abertawe sydd wedi ei hanelu at fenywod sydd wedi eu dyrchafu neu eu gosod ar lwybr carlam o fewn cwmni neu sydd wedi bod yn gyfrifol yn uniongyrchol am dwf , lwyddiant a phroffidioldeb eithriadol eu cwmni dros y 12 mis diwethaf.
Mae Jayne yn esbonio sut mae ei rôl hi yn CIOTEK wedi datblygu ers ei lleoliad gwaith GOWales:
“Yn 2002 ymgorfforwyd CIOTEK Cyf gan Christopher James, ymgynghorydd busnes profiadol a oedd wedi gweithio am flynyddoedd fel aelod cysylltiol o’r WDA, ar ddatblygiad Shannon yn Iwerddon ac ar brosiectau amrywiol yn y Dwyrain Canol.“
“Cyflogodd CIOTEK fi fel ymgynghorydd cynorthwyol cyn gynted ag y dychwelais adref o’r Brifysgol (Caerfaddon ac UWE, yn astudio BSc mewn Economeg ac MA mewn Marchnata) o dan gynllun lleoliad gwaith GO Wales.” “Roeddwn wedi ei chael hi’n anodd cael gwaith yng ngorllewin Lloegr felly dychwelais i Abertawe a sylwais ar y cyfleoedd oedd ar gael i raddedigion drwy’r fenter hon. Roedd yn gymorth mawr i mi integreiddio â’r byd gwaith ac roeddwn yn ddigon ffodus i gael gwaith ar ôl fy lleoliad gwaith 10 wythnos.”
“Roedd y lleoliad yn cynnwys datblygu systemau rheoli perthnasoedd cwsmer a gweithdrefnau gweinyddu rhaglenni er mwyn gwella effeithiolrwydd o fewn y gweithle gan sicrhau cynnydd yn y gallu i gynhyrchu cyllid.”
“O fewn 2 flynedd cefais fy nyrchafu’n Gyfarwyddwr y Cwmni, ar ôl ennill mwy o gymwysterau Marchnata a phrofiad eang mewn cynllunio busnes, strategaeth farchnata a chymorth menter.”
“Bellach, mae gennyf gytundebau unigol gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru, Cyngor Merthyr Tudful, Menter Cymru a Chyngor Castell-nedd Port Talbot yn cynnig cyngor ac arweiniad mewn ystod o feysydd gan gynnwys Adnoddau Dynol, Datblygu’r Gweithlu, cynllunio Busnes a Chyllid ynghyd â Strategaeth Farchnata.”
“Rwyf wrth fy modd i gael fy enwebu yng nghategori Seren y Flwyddyn y Gwobrau hyn ac rwy’n gobeithio fy mod yn fodel rôl cadarnhaol ar gyfer darpar ymgeiswyr a menywod busnes yng Nghymru.”