GO Wales

Newyddion GO Wales

Gorllewin sydd orau ar gyfer busnesau cyfarfod

Cyflwyniad gan GO Wales

Daeth busnesau ledled Sir Benfro at ei gilydd i frecwast a chyfarfod rhwydweithio Graduate Opportunities Wales.

Cynhaliwyd y digwyddiad, a drefnwyd gan The Business Network, ar 7 Gorffennaf yng ngwesty trawiadol Parc Slebech, a roddodd gyfle i fusnesau ledled y sir ddysgu mwy am y cyllid a’r cymorth sydd ar gael drwy raglen GO Wales.

Ariennir GO Wales gan Gronfa Cydgyfeirio’r UE a Llywodraeth Cynulliad Cymru, ac mae’n rhan o ystod o fentrau a gynlluniwyd i annog busnesau yng Nghymru i ddefnyddio a datblygu sgiliau lefel graddedigion.

Yn ogystal â chyfle i rwydweithio, roedd y digwyddiad yn cynnwys cyflwyniadau gan yr areithwyr cyweirnod Andy Middleton o’r grŵp TYF yn Nhyddewi ac Emma Williams o Bullock Consulting yn Noc Penfro, a drafododd y manteision y gall lleoliadau a hyfforddiant graddedig eu rhoi i fusnesau lleol. Dywedodd Angela Lewis o GO Wales, a oedd hefyd yn bresennol yn y digwyddiad:

“Mae GO Wales yn cynnig cyfle ardderchog i gyflogwyr yn Sir Benfro ddarganfod yr hyn y gall sgiliau lefel graddedig eu cynnig i’w busnesau. Yn ogystal, rydym yn darparu cymorth ariannol i helpu busnesau ddarparu hyfforddiant a datblygiad pellach i’w gweithwyr graddedig.”

Os hoffech fwy o wybodaeth ynglŷn â GO Wales, os ydych yn gyflogwr, neu’n raddedig ac yn chwilio am gyfleoedd lleol, ewch i wefan GO Wales www.gowales.co.uk neu cysylltwch â GO Wales ar 0845 225 6050.

Share |