GO Wales

Newyddion GO Wales

Poster gan berson graddedig yn taro deuddeg i ymgyrch Diabetes y DU

Gemma Howell & Dai Williams

Mae un o’r graddedigion a gynlluniodd boster yn ystod ei chyfnod ar leoliad gwaith gyda Diabetes UK Cymru wedi gweld lansiad ei gwaith ynghyd â’i ddosbarthu i bob meddygfa a fferyllfa yng Nghymru.

Cafodd Gemma Howell, myfyriwr graddedig 27 oed o Brifysgol Abertawe, sy’n dod o Gaerffili, y syniad am boster sy’n arddangos symptomau diabetes yn ystod lleoliad gwaith gydag Academi Graddedigion GO Wales pan oedd yn gweithio i’r elusen yr haf diwethaf.

Cafodd Gemma, sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd, y syniad am boster acrostig, sydd yn sillafu symptomau’r cyflwr o’r gair ‘diabetes’.

Lansiodd Diabetes UK Cymru'r poster ar gyfer yr ymgyrch, sy’n cael ei gefnogi gan gyflwynydd BBC Radio Wales, Chris Needs MBE, a Dr Sarah Jarvis, sy’n feddyg teulu ar y teledu, ar ddydd Llun 21 Mawrth drwy anfon copïau o’r poster at bob fferyllfa a meddygfa yng Nghymru.

Nod y poster yw amlygu symptomau’r cyflwr gan amcangyfrifir bod 66,000 ohonom – oddeutu un ym mhob hanner cant -  yn ddiarwybod eu bod yn dioddef o ddiabetes yng Nghymru.

Dywedodd Gemma, sydd bellach yn gydlynydd canolfan ar gyfer Arweinyddiaeth Rhaglen Cymorth Busnes Ethnig, Y Ganolfan Cydraddoldeb ac Amrywiaeth, ac yn astudio rhan amser ar gyfer TAR: “Fy mwriad oedd rhoi fy hun yn sefyllfa rhywun a oedd yn eistedd yn ystafell aros y meddyg a meddyliais am sut i wneud y neges am symptomau diabetes yn glir ac yn ddealladwy.

“Rwy’n hynod falch eu bod yn defnyddio fy syniad i a’i fod yn amlygu achos sy’n aml yn cael ei esgeuluso a’i ddiystyru. Mae’n hyfryd gweld rhywun yn defnyddio un o’m syniadau ac yn ei droi’n realiti.”

Dywedodd Dai Williams, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Diabetes UK Cymru: “Roeddem wrth ein bodd â gwaith Gemma yn ystod ei lleoliad gydag Academi Graddedigion GO Wales ac roeddem yn gwybod bod ei phoster yn syniad ardderchog y funud y dangosodd ef i ni.

“Drwy ei ddanfon i bob meddygfa a fferyllfa yng Nghymru, rydym yn gobeithio y bydd poster Gemma yn help i ddarganfod rhai o’r un allan o hanner cant o bobl yng Nghymru sy’n byw gyda diabetes sydd heb ei ddarganfod.”

Dywedodd Helen Hare, o GO Wales: “Cyflawnodd Gemma lawer gyda Diabetes UK Cymru.

“Dyma’r union beth yw bwriad ein Academi’r Graddedigion; helpu graddedigion i ennill sgiliau busnes a phrofiad ymarferol i’w helpu i gael y cychwyn gorau yn eu gyrfaoedd.”

Share |