Elusen gofrestredig yw EYF (sef Empowering Youth Foundation) sy’n dysgu sgiliau bywyd i bobl ifanc drwy gyfrwng chwaraeon, yn enwedig golff. Sefydlwyd EYF yn 2008 a chymerwyd swyddfa fechan yn y Ffowndri yn Wrecsam yn 2010. Fel yn achos nifer o elusennau bach, y gwaith elusen craidd sy’n cael y flaenoriaeth bob tro yn hytrach na’r gwaith gweinyddol a llwyddwyd i weithio gyda dros 5,000 o bobl ifanc dros y ddwy flynedd diwethaf.
Wrth i’r galw am sgiliau byw gynyddu, mae EYF wedi dechrau cyflwyno rhaglenni mewn mwy o leoliadau.
Mae’r fenter hon gan GO Wales wedi cynorthwyo’r elusen i sicrhau penodiad ei Chynorthwyydd Gweithredol newydd, Molly Whelan, i’w helpu i ymdopi â’r llwyth gwaith cynyddol.
Cysylltodd y Cyfarwyddwr Gweithredol, Dawn Roberts, â GO Wales ym Mhrifysgol Glyndŵr ac esboniodd Shereen Massingham, Swyddog Profiad Gwaith, fanteision defnyddio rhaglen GO Wales. Dywedodd Dawn: “Roedd Shereen yn ein cynorthwyo drwy bob cam o’r broses, gan ei wneud yn hawdd ac yn fwy effeithiol. Roeddem wrth ein bodd gyda’r lefel uchel iawn o ymgeiswyr. Derbyniwyd 12 CV a chafodd pedwar ymgeisydd gwirioneddol dda eu cyfweld - i ddweud y gwir roedd yn anodd penderfynu.”
Ychwanegodd Dawn: “Yr hyn a wnaeth argraff go iawn arnom oedd bod cymaint o’r ymgeiswyr, yn enwedig Molly, eisoes wedi gweithio i elusennau ac fel gwirfoddolwr. Dydw i ddim yn credu y baswn wedi gweld hynny petaem wedi dewis recriwtio mewn ffordd arall. Mae hi wedi derbyn cymaint mwy o gyfrifoldeb nag y rhagwelom wrth i ni osod ein hysbyseb GO Wales yn y lle cyntaf.”
Bellach, mae Molly wedi bod gyda EYF am dros chwe mis a phan holwyd hi ynglŷn â’i phrofiad gyda GO Wales a’i rôl newydd gyda’r elusen, esboniodd: “Ar ôl gorffen fy ngradd a dod adref ar ôl teithio, roedd yn hanfodol fy mod yn dechrau datblygu fy ngyrfa. Cofrestrais â GO Wales ac roeddwn wrth fy modd pan gefais gyfle i weithio gydag elusen. Yn ystod y cyfnod byr rwyf wedi bod gydag EYF rwyf eisoes wedi cael y cyfle i ddatblygu a mynychu digwyddiadau, llenwi cynigiadau tendro, gweithio gyda meysydd golff a gweithwyr golff proffesiynol, ac yn ystod yr haf treuliais ychydig o amser yn gweithio’n uniongyrchol gyda rhai o’r plant hynny sydd yn elwa o’r elusen hon.”
Un o nifer o fanteision y cynllun hwn gan GO Wales yw’r lleoliad ‘dim ymrwymiad’ sy’n galluogi cwmnïau, yn enwedig elusennau, i asesu p’un ai yw’r ymgeisydd yn addas i’r gwaith. Yn ogystal, bydd yr ymgeiswyr a’r cwmni yn elwa o fenter sy’n caniatáu i’r ymgeiswyr ennill cymwysterau ychwanegol.