Bellach cynllun Lleoliad Gwaith ‘Aeth cangen Prifysgol Morgannwg o GO Wales ar ymweliad i gwmni cyfrifeg Mazuma ym Mhen-y-bont ar Ogwr, i brofi ei lwyddiant drostynt eu hunain. Defnyddiodd Charlotte Macmillan a James Price, sy’n raddedigion cyfrifeg a chyllid, gynllun profiad gwaith mwyaf blaengar, Cymru i ennill profiad gwaith cyflogedig sy’n seiliedig ar brosiect, gan lwyddo i gael rôl amser llawn yn y pen draw.
Esboniodd Natalie Hughes, Rheolwr Gweithredol ym Morgannwg, “Yn aml iawn nid oes gan fusnesau bach yr amser na’r adnoddau i ddatblygu syniadau a phrosiectau newydd. Ar adegau nid oes ganddynt y sgiliau arbenigol angenrheidiol i orffen tasg benodol. Drwy dderbyn rhywun ar leoliad, gallant gael at y sgiliau ac elwa o’r brwdfrydedd sydd gan fyfyrwyr neu raddedigion. Mae gan y cwmni ddewis o ymgeiswyr o safon uchel, ac yn aml mae’r lleoliad mor llwyddiannus mae’r myfyriwr yn cael swydd barhaol.”
Esboniodd Lowri Williams, Rheolwr Cyffredinol ym Mazuma, pam fod y cynllun yn ateb eu hanghenion. “Roeddem yn chwilio am rywun i’n helpu’n benodol gyda’n cleientiaid newydd. Wrth i ni ddatblygu ein busnes mae arnom angen pobl i gefnogi ein tîm presennol o gyfrifyddion ac roedd gennym gynnig ar gyfer dau brosiect ar lefel raddedig. Roedd GO Wales yn cynnig ateb syml i’n hanghenion dan arweiniad da, ac roedd y gefnogaeth gyson a ddarparwyd yn lleddfu’r holl ffwdan o ran AD!”
Mae cwmnïau sydd â diddordeb mewn cymryd rhan yn y cynllun yn cael eu hannog i weithredu’n syth, gan fod y cyfnod presennol o gyllid yn dod i ben tua diwedd y flwyddyn hon. Ewch i www.gowales.co.uk neu ffoniwch 0845 225 50 60.