GO Wales’ yw’r ganolfan fwyaf blaengar yn y DU sy’n cynnig Dyfarniad Datblygiad Proffesiynol City and Guilds i fyfyrwyr a graddedigion sy’n cymryd rhan mewn Lleoliadau Gwaith.
Cymhwyster seiliedig yn y gweithle yw’r Dyfarniad Datblygiad Proffesiynol (PDA) sy’n cael ei gynnig i’r holl raddedigion ac israddedigion sy’n dechrau Lleoliad Gwaith GO Wales. Dros y pum mlynedd diwethaf mae’r PDA wedi datblygu i fod yn rhaglen hynod strwythuredig sy’n cynorthwyo datblygiad personol ynghyd â datblygiad proffesiynol ymgeiswyr sy’n gwneud Lleoliadau Gwaith.
Esboniodd Janet Mosson, Swyddog Hyfforddi PDA GO Wales;
“Mae dyfodiad aelodau newydd i’r tîm wedi helpu’r rhaglen i dyfu’n arwyddocaol; ac mae’r cymorth a’r arweiniad sydd i’w gael o fewn y tîm wedi sicrhau bod y dyfarniad yn un gwerthfawr i’w ychwanegu at CV yr ymgeiswyr. Un o’r cryfderau allweddol sydd gennym, sy’n help i gynnal ein safonau, yw brwdfrydedd ac egni’r tîm, i ddarparu myfyrwyr a graddedigion â’r cyfle i gynyddu eu cyflogadwyedd a’u hymwybyddiaeth busnes.”
Mae dros fil o fyfyrwyr a graddedigion wedi dechau ar y dyfarniad ers i GO Wales ddechrau cynnig y cymhwyster yn 2005. Gyda’r cyfle i ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd ac ennill cydnabyddiaeth ffurfiol am eu hymdrechion tra ar Leoliad Gwaith mae’n amlwg bod manteision clir i’r ymgeisydd yn ogystal â’r cyflogwr.
Dechreuodd Lewis Phillips, myfyriwr graddedig mewn Llenyddiaeth Saesneg o Bowys yng nghanolbarth Cymru, ar y dyfarniad tra roedd ar Leoliad Gwaith gydag Asiantaethau Cooper yng Nghaerdydd. Yn ystod ei leoliad gofynnwyd iddo weithio ar gynllunio strategol rhwydwaith dosbarthu newydd ar gyfer nifer o enwau ffasiwn/ chwaraeon o fewn adwerthwyr annibynnol yng Nghymru. Ym marn Lewis mae’r cymhwyster wedi ei helpu i gael y gorau allan o’r profiad;
“Roedd Dyfarniad Datblygiad Proffesiynol City and Guilds yn brofiad hynod gwerth chweil ac un a wnaeth hi’n bosibl i mi ddefnyddio’r sgiliau a enillais ac a ddatblygais yn ystod fy nghwrs gradd. Rwyf wedi dysgu pa mor bwysig yw hunanasesiad gonest yn ogystal â chanfod a mynd i’r afael â gwendidau personol neu wendidau busnes yn syth, yn lle canolbwyntio ar gryfderau personol yn unig. Hoffwn gredu bod yr holl broses wedi fy ngwneud yn unigolyn mwy cyflawn a bydd y sgiliau rwyf wedi eu datblygu yn ystod y lleoliad yn helpu tuag at lwyddiant yn fy ngyrfa yn y dyfodol.”
Bydd 2011 yn flwyddyn brysur arall i’r tîm, ond gyda’r ystod o brofiadau, gwybodaeth a sgiliau o fewn y tîm rydym yn hyderus y byddwn yn gallu cwrdd â’r her.