Mae’r dyfodol yn edrych llawer yn fwy disglair i raddedigion yng Nghymru – dyma’r neges allweddol a atgyfnerthwyd pan ddarlledwyd stori ar newyddion ITV Wales am GO Wales yn gynharach yr wythnos hon.
Mae’r cyfleoedd y mae’r cynllun Lleoliadau Gwaith yn eu rhoi i fyfyrwyr a graddedigion yng Nghrymu wedi creu cymaint o argraff ar Joanna Simpson, Gohebydd Addysg, fel ei bod yn awyddus i siarad â rhai pobl oedd wedi elwa o’r cynllun.
Mae cwmni animeiddio Dinamo yn Nhrefforest wedi cynnal 16 o leoliadau gwaith trwy gynllun GO Wales, ac mae nifer o’r graddedigion wedi mynd ymlaen i ddatblygu gyrfaoedd llwyddiannus gyda Dinamo.
Mae gan Dinamo dîm creadigol o tua 100 o weithwyr yn gweithio ar animeiddiadau digidol 2D a 3D o ansawdd uchel ac effeithiau gweledol ar gyfer y teledu, ffilm a’r we. Roedd y stori’n rhoi cyfle gwych i weld y gwaith o wneud rhaglenni plant y mae nifer o’r graddedigion wedi bod yn rhan ohono tra ar eu lleoliad.
Gyda Lleoliadau Gwaith ar gynnydd, gall graddedigion fod yn sicr fod cyfleoedd gyrfa ardderchog ar gael yng Nghymru trwy gynllun GO Wales.
Gallwch weld y stori gyfan trwy Sianel You Tube GO Wales -