GO Wales

Newyddion GO Wales

Pum myfyriwr graddedig yn ennill cyfleoedd ardderchog gyda Spin Dogs

Spin Dogs

Mae Spin Dogs, yr asiantaeth dylunio gwefannau blaenllaw, yn recriwtio graddedigion oherwydd y sgiliau a’r brwdfrydedd y maen nhw’n dod â nhw i’r cwmni. Mae Spin Dogs wedi defnyddio cynllun lleoliadau gwaith GO Wales i recriwtio nifer o raddedigion yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf; ac mae pump o’r graddedigion hynny’n dal i weithio i’r cwmni ac mae ganddynt ddyfodol disglair o’u blaenau.

Yn ddiweddar, cawsom sgwrs gyda Claire Swindell, Rheolwr Perthnasoedd Spin Dogs, am ei phrofiadau hi o ran recriwtio graddedigion.

“Rydym yn cyflogi graddedigion oherwydd eu bod yn dod â brwdfrydedd i’w rôl a chwistrelliad o egni i’r tîm. Yn ogystal, maen nhw’n barod i ddysgu wrth aelodau mwy profiadol y tîm, a theimlwn fod y ‘mentora’ hyn yn bwysig i’n gweithwyr ac i’r recriwt.” 

“Rydym wedi recriwtio ar gyfer amrywiaeth o brosiectau – technegol a dylunio – ac ar ran pob math o gleientiaid trwy GO Wales, gyda’r gwaith yn cwmpasu’r sector preifat, cyhoeddus a’r trydydd sector. Mewn rhai achosion, mae’r recriwt wedi gorfod cwblhau gwaith i friff penodol o fewn terfyn amser tynn, ac mewn achosion lle mae’r briff wedi bod yn fwy hyblyg maen nhw wedi cael cyfle i arddangos eu dawn a’u mentergarwch.”

Dechreuodd Sarah Burdett weithio i Spin Dogs ym mis Gorffennaf 2010 pan gafodd ei recriwtio fel Datblygydd PHP trwy leoliad gwaith GO Wales. Flwyddyn yn ddiweddarach, mae Sarah yn dal i weithio i’r cwmni.

“Mae’r lleoliad gwaith a gefais trwy GO Wales wedi bod o fantais fawr i mi o ran rhoi profiad i mi o ganolbwyntio ar brosiect penodol a’m galluogi i gwblhau Gwobr Datblygiad Proffesiynol, heb sôn am arwain at swydd barhaol.”

Yn ogystal â’r prosiectau gwerthfawr mae’r graddedigion wedi gweithio arnynt, mae gan Spin Dogs dîm o unigolion dawnus yr oedd modd eu rhoi ar brawf cyn cynnig swyddi hirdymor iddynt. Parhaodd Claire Swindell:

“Mae pob lleoliad gwaith wedi bod yn llwyddiant gyda phawb yn elwa o’r profiad. Mae pum unigolyn a ddaeth atom ar leoliad gwaith bellach yn gweithio’n amser llawn i Spin Dogs, sy’n ardderchog gan ei fod yn dangos pa mor wych oedden nhw yn ystod eu lleoliadau gwaith!”

Dechreuodd IIias Stivasaris, sydd wedi graddio mewn TG Busnes o Brifysgol Aberystwyth, ar leoliad gwaith gyda Spin Dogs yn gynharach eleni. Canolbwyntiodd ei brosiect ar ddatblygu rhaglenni i ffonau symudol; marchnad sy’n symud yn gyflym roedd Spin Dogs yn dymuno bod yn rhan ohoni. Mae’r hyn a ddechreuodd fel lleoliad gwaith deg wythnos wedi datblygu i fod yn swydd amser llawn i Ilias.

“Roedd yn brofiad ardderchog i mi gael lleoliad gwaith trwy GO Wales ac rwy’n ddigon lwcus i fod wedi sicrhau swydd barhaol gyda’r cwmni ar ôl hynny.”

 

Share |