Dewch draw am banad i gyfarfod â thîm GO Wales ac i weld sut y gallwn helpu eich busnes gyda chostau recriwtio a hyfforddi graddedigion.
Mae gan GO Wales amrywiaeth o wasanaethau ac rydym yn gallu cyfrannu hyd at £7,500 i gefnogi busnesau bach a chanolig gyda rhaglenni lleoliadau gwaith a hyfforddi graddedigion.Byddwn yn cynnal sesiynau galw heibio dros yr wythnosau nesaf yng Ngwynedd, Ynys Môn a Chonwy, felly os hoffech ddysgu mwy am beth rydym yn ei gynnig dewch draw am sgwrs!
Bydd cynrychiolydd o Wasanaeth Canolfannau Rhanbarthol Llywodraeth Cymru hefyd wrth law i drafod anghenion eich busnes ac i roi gwybodaeth a chanllawiau.
I gofrestru eich diddordeb cysylltwch â Tess Cameron neu Elinor Churchill:gowales@bangor.ac.uk / www.gowales.co.uk / 01248 383586
Byddwn yn y lleoliadau canlynol rhwng 10.30am a 12.30pm:
Galwch heibio ar Ddydd Gwyl Dewi i drafod lleoliadau gwaith iaith Gymraeg. Bydd Bwrdd yr iaith Gymraeg hefyd wrth law i drafod anghenion eich busnes.