GO Wales

Newyddion GO Wales

Cynllun Graddedigion Cymru yn cynnig Cymorth Ariannol i Fusnesau Bach a Chanolig i Ddatblygu Sgiliau

Rory Wilson

Mewn ymdrech i gefnogi datblygu lefel uwch o sgiliau a chadw gweithwyr wedi graddio yn economi Cymru, mae GO Wales, y cynllun cyflogi graddedigion, wedi ychwanegu at y Gronfa Hyfforddi a Datblygu sydd ar gael i fusnesau bach yng Nghymru.

Mae’r cymorth ariannol ar gael i gwmnïau sydd eisiau datblygu sgiliau myfyriwr graddedig sy’n gweithio iddynt, a fydd yn ei dro yn ychwanegu at werth at fusnes.

Gall busnesau cymwys wneud cais am 50% o gost cymhwyster cydnabyddedig hyd at £1,500 i bob myfyriwr graddedig sy’n gweithio iddynt, hyd at gyfanswm o £8,500.

Mae’r Gronfa Hyfforddi a Chyflogi Graddedigion wedi bod yn rhedeg fel rhan o brosiect ehangach GO wales am dair blynedd, a bydd yn parhau tan 2014.

Astudiodd Rory Wilson, cyfarwyddwr cwmni pensaernïaeth Catalina yn Aberystwyth, am ddiploma ôl-raddedig mewn ‘Cadwraeth a’r Amgylchedd Hanesyddol’ ar ôl cael cymorth gan y Gronfa Hyfforddi a Chyflogi Graddedigion:

”Mae’r wybodaeth a’r sgiliau rwyf wedi eu datblygu ar y cwrs wedi galluogi fy musnes i wneud cyflwyniadau priodol i gleientiaid newydd sydd ag anghenion penodol cysylltiedig â chadw adeiladau hanesyddol,” dywedodd Rory.

”O ganlyniad i’r cwrs a’r hyder mae darpar gleientiaid yn ei ddangos yn y busnes, rydym wedi cyflogi aelod rhan-amser ychwanegol o staff,” ychwanegodd.

Un o amcanion GO Wales yw sicrhau bod busnesau bach yn manteisio i’r eithaf ar eu gweithwyr sydd wedi graddio, gan gymryd mantais o gyfleoedd fel hyn.

“Nod y Gronfa Hyfforddi a Chyflogi Graddedigion yw datblygu sgiliau unigolion a busnesau bach a chanolig yng Nghymru, trwy ddarparu hyfforddiant o’r radd flaenaf mewn meysydd allweddol, a fydd yn datblygu ac yn cynorthwyo busnesau i gadw sgiliau lefel graddedig yn economi Cymru,” dywedodd Jackie Creswell-Griffiths, Rheolwr Rhaglen GO Wales. 

 

Share |