GO Wales

Newyddion GO Wales

Ymgynghorwyr Melin yn helpu adeiladu cysylltiadau ag addysg drwy GO Wales

Rhys Gregory

Mae un o brif fusnesau Sir Gaerfyrddin yn helpu i baratoi’r ffordd i adeiladu cysylltiadau ag addysg. Cofrestrodd Melin Consultants, sydd wedi eu lleoli yn Llanelli, gyda phrosiect arloesol GO Wales, sy’n ei gwneud hi’n bosibl i fyfyrwyr a graddedigion ddatblygu eu gyrfaoedd drwy brofiad gwaith a chyfleoedd hyfforddi o safon.

“Mae GO Wales yn brosiect cyffrous ac yn un a ddylai fod o ddiddordeb i unrhyw fusnes sy’n awyddus i ddatblygu doniau ifanc,” meddai cyfarwyddwr Melin Consultants, Jamie Best.


Mae’r tîm yn Melin newydd elwa o leoliad gwaith 10 wythnos gan Rhys Gregory, myfyriwr 22 oed a raddiodd mewn rheoli a busnes o Brifysgol Aberystwyth.


Mae’r lleoliad gwaith 10 wythnos yn gam pwysig i Rhys wrth iddo geisio datblygu ei yrfa fel strategydd marchnata digidol.


“Mae gennyf ddiddordeb mewn gyrfa mewn busnes ac mewn marchnata digidol yn benodol, felly mae’r lleoliad gyda Melin Consultants wedi bod yn ddelfrydol. Mae wedi rhoi blas i fi o’r amgylchedd gwaith ‘go iawn’ a’r anogaeth i fynd ymlaen at bethau gwell mewn busnes.


Ychwanegodd Rhys: “Mae Melin Consultants yn gwmni sy’n cael ei gydnabod ledled Cymru am ei arbenigedd fel ymgynghorwyr adeiladu cynaliadwy ac mae wedi bod yn bleser gweithio gydag aelodau o’r tîm yn eu canolfan newydd yn Y Goleudy, yn Nafen, Llanelli”


“Mae’r gwaith wedi bod yn amrywiol ac yn heriol ac wedi cynnwys datblygu gwefan y cwmni, yr holl ffurfiau ar gyfathrebu digidol, datblygu llinynnau cyfryngau cymdeithasol, adeiladu basdata marchnata cynhwysfawr, cysylltu â’r cyfryngau a ffurfio barnau strategol ar farchnata’r busnes, sydd yn un llwyddiannus dros ben.”


Dywedodd Mr Best: “Mae wedi bod yn bleser cael Rhys fel rhan o’r tîm yn Melin Consultants yn ystod ei leoliad. Mae pob busnes yn ymwybodol o’r angen i adeiladu ein canolfan sgiliau a sicrhau ein bod yn datblygu’r economi gwybodaeth yng Nghymru. Mae cynllun GO Wales yn un o’r ffyrdd i helpu cyflawni’r amcanion hynny.”


Fel rhan o’i leoliad GO Wales, mae Rhys yn ysgrifennu prosiect 2,000 o eiriau a fydd yn arwain at Wobr City and Guilds.

 

 

Share |