GO Wales

Newyddion GO Wales

Cymhwyso gyda GO Wales

Mynnwch Gymhwyster

Mae’r rhan fwyaf o reolwyr yn cytuno bod eu hadnoddau dynol yn hollbwysig i’w llwyddiant. Gyda thîm da, gall busnes addasu a pharhau i dyfu hyd yn oed mewn amodau economaidd heriol. Mae GO Wales yn cydnabod hyn ac mae gennym hyd at £1,500 ar gael ar gyfer pob aelod o staff tuag at y gost o hyfforddiant proffesiynol a chymwysterau ôl-raddedig.

Mae Burns Pet Nutrition yn enghraifft o un cwmni lleol sydd wedi mynd i’r afael â’r dirwasgiad ac wedi dewis parhau i feithrin eu staff. Esbonia Katie Williams, Rheolwr Swyddfa:

“Yn Burns deallwn mai pobl yw ein caffaeliad mwyaf gwerthfawr. Mae GO Wales yn cefnogi ein buddsoddiad mewn datblygiad proffesiynol parhaus, gan sicrhau bod gan unigolion talentog y sgiliau perthnasol i gyflawni nodau busnes.”

Astudiodd Howard Yip sy’n gweithio gyda’r tîm TG  yn Burns am radd MBA ar sail ran-amser ac roedd yn brofiad dysgu gwych.

“Mae’r MBA wedi cynnig golwg gwerthfawr i mi ar agweddau rheoli ar y busnes ac mae wedi fy helpu i bontio’r bwlch rhwng TG a gofynion busnes.”

Hyd at £1,500 ar gael ar gyfer pob aelod  staff graddedig

Hyd at £8,500 ar gyfer pob cwmni

Chi sy’n dewis beth, pryd a ble rydych yn astudio

Mae modd manteisio ar gyllid yn hawdd a thrwy broses ymgeisio syml. Ewch i www.gowales.co.uk/training, anfonwch negese-bost at info@gowales.co.uk neu ffoniwch 0845 225 60 50am ragor o wybodaeth


 

 

Share |