GO Wales

Y Diweddaraf

Glyndŵr yn gwobrwyo cyflogwyr mewn digwyddiad i ddathlu pen-blwydd GO Wales yn 10 oed
14 Mai 2013
Mae cynllun a gefnogir gan y llywodraeth, sydd wedi helpu bron 6,500 o raddedigion i chwilio am gyflogaeth graddedig, wedi dathlu ei ben-blwydd yn 10 oed ym Mhrifysgol Glyndŵr.
GO Wales yn dathlu 10 mlynedd ar Ddiwrnod Ewrop
09 Mai 2013
Ers 2003, mae’r prosiect cyflogadwyedd graddedigion, GO Wales, wedi cael arian gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop i helpu i ddatblygu a chadw sgiliau a gwybodaeth lefel uchel graddedigion a’u potensial arloesol mewn busnesau, yng Nghymru, yn enwedig mewn busnesau bach a chanolig.
Busnesau Blaenau Gwent yn cael eu gwobrwyo am ragoriaeth profiad gwaith
22 Ebrill 2013
Daeth dros 30 o gynrychiolwyr o sefydliadau’r sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol a chanddynt fuddiannau ym Mlaenau Gwent i ‘Ddigwyddiad Brecwast Rhwydweithio Blaenau Gwent GO Wales’ yn Nhŷ Bedwellty, Tredegar yr wythnos hon, i ymuno yn nathliadau pen-blwydd GO Wales, sef rhaglen Cyflogadwyedd Graddedigion a Chymorth Busnes arloesol Cymru, yn 10 oed.
Miloedd o raddedigion mewn gwaith; GO Wales yn myfyrio ar ôl 10 mlynedd
15 Ebrill 2013
Y mis hwn, mae un o’r darparwyr lleoliadau i raddedigion mwyaf amlwg yng Nghymru yn dathlu ei ben-blwydd yn 10 oed. Er mwyn helpu i nodi’r garreg filltir hon, mae GO Wales, sef prosiect cyflogadwyedd graddedigion blaenllaw Cymru, wedi cysylltu ag oddeutu 6,500 o’r graddedigion sydd wedi elwa o Leoliadau Gwaith â thâl gyda busnesau lleol ledled y wlad, i ddarganfod sut mae pethau’n mynd.
Rhoddodd GO Wales ei chyfle cyntaf o ran gyrfa i Nicole, ddegawd yn ôl!
02 Ebrill 2013
10 mlynedd yn ôl roedd Nicole Rugman wedi graddio, ac ar y trên ar y ffordd i’w chyfweliad cyntaf ar gyfer swydd yn Nhredegar. Llwyddodd y trên i dorri lawr ym mhob gorsaf, ond ar ôl cyfweliad llwyddiannus cafodd gynnig y swydd. Roedd i ddechrau’r diwrnod canlynol fel rhan o Leoliad Gwaith gyda GO Wales ac nid yw wedi edrych yn ôl ers hynny.
Lleoliad gwaith Petersens yn cael cydnabyddiaeth genedlaethol
28 Mawrth 2013
Mae cwmni ymgynghoriaeth Cysylltiadau Cyhoeddus, sef Petersens, sydd wedi ei leoli yng Nghaerdydd, wedi ennill un o brif wobrau y Cyngor Cenedlaethol ar gyfer Profiad Gwaith (NCWE) 2013, gan eu nodi yn un o brif ddarparwyr gorau profiad gwaith yn y gweithle yn y DU.
Caru Cymru? Tynnwch ffotograffau o’ch hoff bethau am y wlad yng nghystadleuaeth ddiweddaraf GO Wales
25 Mawrth 2013
Ar y cyd â degfed pen-blwydd prosiect pennaf Cymru ar gyflogadwyedd i raddedigion, mae GO Wales, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Gymdeithasol Ewrop yn lansio cystadleuaeth ffotograffiaeth sy’n galw ar bobl Cymru i dynnu lluniau o’r wlad yn ei holl ogoniant.
Mae GO Wales yn helpu menywod i arwain ym mhrif swyddi Cymru; yn unol â Diwrnod Rhyngwladol y Menywod!
08 Mawrth 2013
Bellach yn dathlu ei ben-blwydd yn gant a dau, mae nifer cefnogwyr Diwrnod Rhyngwladol y Menywod wedi tyfu. Felly, nid yw’n unrhyw syndod bod ethos y neges gadarnhaol hon yn rhan o waith llawer o sefydliadau modern fel GO Wales, sef y darparwr lleoliadau gwaith i raddedigion Cymru a ariennir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Gymdeithasol Ewrop.
Cyfweliad gyda Sam Gould
04 Mawrth 2013
Ers 2010 mae’r cwmni digwyddiadau myfyrwyr, Total Students, wedi recriwtio nifer o raddedigion trwy GO Wales, gyda’r lleoliadau gwaith deg wythnos cychwynnol yn arwain yn aml at waith mwy parhaol. Mae hyblygrwydd y cynllun yn golygu bod y Cyfarwyddwr, Sam Gould, wedi gallu recriwtio unigolion talentog ar adegau allweddol o ran datblygiad y cwmni. Cawsom ni air gyda Sam yn ddiweddar i glywed mwy am sut mae’r busnes wedi tyfu a sut mae graddedigion wedi helpu i gefnogi hynny...
Becky’n cymryd y gwyddorau o gwmpas y byd ar ôl lleoliad GO Wales!
26 Chwefror 2013
Pan fynychodd Becky Holmes leoliad gwaith GO Wales saith mlynedd yn ôl, ni allai ddychmygu y byddai’n teithio’r byd yn rhannu’r hyn maen ei wybod am y gwyddorau gydag athrawon, plant ac ymchwilwyr.
1-10 o 98 Newyddion