GO Wales

Y Diweddaraf

Mae gan GO Wales Dalent!
09 Gorffennaf 2012
Mae Swyddog Hyfforddi GO Wales, Allyson Summerhayes, wedi cyd-gynhyrchu sioe gerdd o’r enw ‘The Musician’ sy’n cael ei pherfformio am y tro cyntaf y mis Ebrill nesaf yng Nghanolfan Taliesin , Abertawe.
Cymhwyso gyda GO Wales
21 Mehefin 2012
Mae’r rhan fwyaf o reolwyr yn cytuno bod eu hadnoddau dynol yn hollbwysig i’w llwyddiant. Gyda thîm da, gall busnes addasu a pharhau i dyfu hyd yn oed mewn amodau economaidd heriol. Mae GO Wales yn cydnabod hyn ac mae gennym hyd at £1,500 ar gael ar gyfer pob aelod o staff tuag at y gost o hyfforddiant proffesiynol a chymwysterau ôl-raddedig.
GO Wales yn cefnogi Gwobr Cyflogwyr Graddedigion
13 Mehefin 2012
Mae pedwar busnes o Aberystwyth wedi’u henwebu am ‘Wobr Cyflogwyr Graddedigion’ sy’n rhan o wobrau Aber First papur newydd y Cambrian News sy’n gwobrwyo cyfraniadau ardderchog yn y rhanbarth.
Ymgynghorwyr Melin yn helpu adeiladu cysylltiadau ag addysg drwy GO Wales
25 Mai 2012
Mae un o brif fusnesau Sir Gaerfyrddin yn helpu i baratoi’r ffordd i adeiladu cysylltiadau ag addysg. Cofrestrodd Melin Consultants, sydd wedi eu lleoli yn Llanelli, gyda phrosiect arloesol GO Wales, sy’n ei gwneud hi’n bosibl i fyfyrwyr a graddedigion ddatblygu eu gyrfaoedd drwy brofiad gwaith a chyfleoedd hyfforddi o safon.
Rhoi Busnesau Cymru Ar-lein
26 Mawrth 2012
Mae Cymru yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau Google erbyn hyn sydd â’r nod o helpu busnesau’r rhanbarth i fynd ar-lein. Os ydych yn rhedeg busnes bach, mae Google yn eich gwahodd chi i ddod i glywed sut gallwch gynyddu maint eich busnes ar-lein.
Cynllun Graddedigion Cymru yn cynnig Cymorth Ariannol i Fusnesau Bach a Chanolig i Ddatblygu Sgiliau
21 Mawrth 2012
Mewn ymdrech i gefnogi datblygu lefel uwch o sgiliau a chadw gweithwyr wedi graddio yn economi Cymru, mae GO Wales, y cynllun cyflogi graddedigion, wedi ychwanegu at y Gronfa Hyfforddi a Datblygu sydd ar gael i fusnesau bach yng Nghymru.
Darganfyddwch sut y gall eich busnes chi dderbyn hyd at £8,500 gan GO Wales
20 Chwefror 2012
Dewch i gwrdd â’r tîm a darganfod sut y gall GO Wales helpu eich busnes gyda lleoliadau gwaith i raddedigion a hyfforddiant. Byddwn yn cynnal sesiynau galw heibio trwy gydol mis Mawrth mewn lleoliadau yng Ngheredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro.
Yn helpu eich busnes i gyrraedd uchelderau newydd
25 Ionawr 2012
Dewch draw am banad i gyfarfod â thîm GO Wales ac i weld sut y gallwn helpu eich busnes gyda chostau recriwtio a hyfforddi graddedigion.
Cartrefi NPT yn cyflogi unigolyn graddedig lleol drwy GO Wales
14 Rhagfyr 2011
Ar ôl recriwtio unigolyn graddedig drwy GO Wales ar leoliad gwaith 10 wythnos mae Cartrefi NPT wedi cynnig estyniad chwe mis i’r gŵr ifanc o Bort Talbot sy’n gyn-fyfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe.
Cymorth wrth law i Raddedigion Di-waith Cymru
28 Tachwedd 2011
Gyda ffigyrau cyflogaeth diweddaraf y llywodraeth yn dangos bod 22% o bobl ifanc ym Mhrydain allan o waith, mae GO Wales wedi sicrhau cymorth ariannol am dair blynedd ychwanegol oedd ei fawr angen.
21-30 o 99 Newyddion