Dewch draw i gyfarfod â thîm GO Wales i ddarganfod sut y gallwn helpu eich busnes gyda chostau recriwtio neu hyfforddi. Byddwn ar gael mewn amrywiaeth o leoliadau o amgylch Môn, Gwynedd a Chonwy ar y dyddiadau isod.
Mae Spin Dogs, yr asiantaeth dylunio gwefannau blaenllaw, yn recriwtio graddedigion oherwydd y sgiliau a’r brwdfrydedd y maen nhw’n dod â nhw i’r cwmni. Mae Spin Dogs wedi defnyddio cynllun lleoliadau gwaith GO Wales i recriwtio nifer o raddedigion yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf; ac mae pump o’r graddedigion hynny’n dal i weithio i’r cwmni ac mae ganddynt ddyfodol disglair o’u blaenau.
Mae Rhys Thomas, o Wrecsam, ac Aleksandra Zembrzuska, o Wlad Pwyl yn wreiddiol ond a astudiodd yng Nghymru, wedi ymuno ag AVOW ar leoliadau trwy raglen GO Wales.
Mae’r dyfodol yn edrych llawer yn fwy disglair i raddedigion yng Nghymru – dyma’r neges allweddol a atgyfnerthwyd pan ddarlledwyd stori ar newyddion ITV Wales am GO Wales yn gynharach yr wythnos hon.
Mae’r cyfrifwyr siartredig ac ymgynghorwyr busnes Clay Shaw Butler wedi cofrestru ar brosiect arloesol GO Wales, sy’n gwneud hi’n bosibl i fyfyrwyr a graddedigion ddatblygu eu gyrfaoedd drwy brofiad gwaith a chyfleoedd hyfforddi o ansawdd da.
Sefydlwyd Ikona IT yn 2002 gan Mr Spiro Ginis. Ikona yw un o dai datblygu TG a Meddalwedd mwyaf blaenllaw Cymru. Mae’r cwmni’n arbenigo ym mhob agwedd o Wasanaethau TG, o gynllunio a gweithredu isadeiledd i ddatblygu a chefnogi meddalwedd.
Mae Ikona IT wedi recriwtio dau raddedig fel Technegwyr TG drwy gynllun Lleoliad Gwaith GO Wales; siaradodd y Cyfarwyddwr Spiro Ginis gyda ni am y profiad…
Mae Clwb Pêl-droed DInas Caerdydd wedi rhoi cyfle i dros 20 o fyfyrwyr a graddedigion ddefnyddio eu doniau drwy helpu’r adran gyfryngau gyda nifer o brosiectau allweddol i helpu i godi proffil y clwb.
Mae ECTARC, sef y Ganolfan Ewropeaidd dros Hyfforddiant a Chydweithredu Rhanbarthol, wedi sicrhau arian yr UE i alluogi 100 o raddedigion yng Nghymru brofi lleoliad gwaith mewn gwlad arall yn Ewrop. Gan weithio gyda GO Wales, mae ECTARC yn bwriadu recriwtio 100 o raddedigion bob blwyddyn i raglen Dysgu Gydol Oes Leonardo da Vinci i gynnig y cyfle iddynt ddatblygu eu cyfleoedd gwaith drwy gymryd rhan mewn rhaglen 13 wythnos o brofiad iaith a gwaith sy’n gysylltiedig yn uniongyrchol â’u hastudiaethau yn Sbaen, Ffrainc, Yr Almaen neu’r Eidal.
Dewch draw i gyfarfod â thîm GO Wales i ddarganfod sut gallwn helpu
eich busnes gyda chostau recriwtio neu hyfforddi. Byddwn yn Nerbynfa OpTic Glyndŵr, Llanelwy o 11am tan 2pm ar Ddydd Llun yr 16eg o Fai.