Mae Sw Môr Môn yn un o sawl busnes sydd wedi manteisio ar GO Wales, sef menter sy’n rhoi profiad a rhagflas o waith i raddedigion mewn maes sy’n ymwneud â’u gradd.
Mae un o’r graddedigion a gynlluniodd boster yn ystod ei chyfnod ar leoliad gwaith gyda Diabetes UK Cymru wedi gweld lansiad ei gwaith ynghyd â’i ddosbarthu i bob meddygfa a fferyllfa yng Nghymru.
Diolch i'r cynnydd mewn technoleg y blynyddoedd diwethaf, o heddiw ymlaen mi fydd hi'n bosib cario a defnyddio geiriadur Cymraeg i bobman. Bydd Ap Geiriaduron – sydd ar gael i’r iPhone, iPad ac Android – yn cael ei ddefnyddio am y tro cyntaf ar ben yr Wyddfa er mwyn dangos pa mor gryno a defnyddiol y mae fel geiriadur i ddysgwyr, rheini, plant ac athrawon ym mhobman.
Gall Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam sef AVOW warantu’r sgiliau y gall graddedigion eu cynnig i fusnesau bach yng Nghymru ar ôl iddynt recriwtio Aleksandra Zembrzuska drwy gynllun GO Wales i reoli eu strategaeth farchnata a chyfathrebu.
A oes gennych brosiect busnes mewn golwg, ond nid oes gennych y sgiliau a’r adnoddau sydd eu hangen i’w gychwyn?
Mae gan fusnesau ym mhob diwydiant a sector ledled Cymru y cyfle i recriwtio graddedigion a myfyrwyr galluog am tua 10 wythnos i helpu gyda phrosiectau a leolir yn y gwaith a byddant yn derbyn cyllid tuag at eu cyflogau. Mae GO Wales hefyd yn cynnig cyllid ar gyfer hyfforddiant a chyfleoedd profiad gwaith di-dâl ar gyfer myfyrwyr a graddedigion.
Mae tîm GO Wales Prifysgol Glyndŵr wedi cael mis prysur. Mae’r tîm nid yn unig wedi bod yn cyfarfod a chyfarch y myfyrwyr newydd, ond maent hefyd wedi bod allan yn rhwydweithio gyda busnesau lleol.
Yn ystod y tair blynedd ddiwethaf mae 1,840 o fyfyrwyr a graddedigion wedi cael cyfleoedd gwaith rhagorol diolch i gefnogaeth barhaol busnesau fel eich busnes chi ac mae tua 60% wedi cael gwaith pellach o ganlyniad i’w Lleoliad Gwaith.
Mae Rhys Webber yn gyd-berchennog ar asiantaeth ddylunio Webber Design yng Nghasnewydd (gyda’i wraig, Marion). Mae wedi bod yn gweithio gyda GO Wales ers 2004, yn cyflogi myfyrwyr a graddedigion ar leoliadau gwaith tymor byr. Mae’r holl leoliadau graddedigion wedi arwain at swyddi tymor hwy gyda’r cwmni.
Bellach cynllun Lleoliad Gwaith ‘Aeth cangen Prifysgol Morgannwg o GO Wales ar ymweliad i gwmni cyfrifeg Mazuma ym Mhen-y-bont ar Ogwr, i brofi ei lwyddiant drostynt eu hunain. Defnyddiodd Charlotte Macmillan a James Price, sy’n raddedigion cyfrifeg a chyllid, gynllun profiad gwaith mwyaf blaengar, Cymru i ennill profiad gwaith cyflogedig sy’n seiliedig ar brosiect, gan lwyddo i gael rôl amser llawn yn y pen draw.