GO Wales’ yw’r ganolfan fwyaf blaengar yn y DU sy’n cynnig Dyfarniad Datblygiad Proffesiynol City and Guilds i fyfyrwyr a graddedigion sy’n cymryd rhan mewn Lleoliadau Gwaith.
Elusen gofrestredig yw EYF (sef Empowering Youth Foundation) sy’n dysgu sgiliau bywyd i bobl ifanc drwy gyfrwng chwaraeon, yn enwedig golff. Sefydlwyd EYF yn 2008 a chymerwyd swyddfa fechan yn y Ffowndri yn Wrecsam yn 2010. Fel yn achos nifer o elusennau bach, y gwaith elusen craidd sy’n cael y flaenoriaeth bob tro yn hytrach na’r gwaith gweinyddol a llwyddwyd i weithio gyda dros 5,000 o bobl ifanc dros y ddwy flynedd diwethaf.
Aeth cangen Prifysgol Morgannwg o GO Wales ar ymweliad i gwmni cyfrifeg Mazuma ym Mhen-y-bont ar Ogwr, i brofi ei lwyddiant drostynt eu hunain. Defnyddiodd Charlotte Macmillan a James Price, sy’n raddedigion cyfrifeg a chyllid, gynllun profiad gwaith mwyaf blaengar, Cymru i ennill profiad gwaith cyflogedig sy’n seiliedig ar brosiect, gan lwyddo i gael rôl amser llawn yn y pen draw.
Dewch draw i gyfarfod â thîm GO Wales i ddarganfod sut gallwn helpu eich busnes gyda chostau recriwtio neu hyfforddi. Byddwn yn y Ganolfan Rheolaeth ar Ffordd y Coleg, Bangor o 8am tan 10am bob yn ail wythnos yn ogystal âg Ynys Môn, Conwy a Gwynedd ar y dyddiadau isod.
Hoffai Canolfan Reolaeth Glyndŵr yn Wrecsam ddiolch yn arbennig i Jessica Wright, am ei holl waith caled yn ystod ei lleoliad GO Wales ddeuddeg wythnos.
Mae VSI-Thinking, cwmni cynllunio gwefannau o Gaerdydd, bob amser yn chwilio am raddedigion ar gyfer llwyddiant eu cwmni yn y dyfodol. Drwy weithio gyda GO Wales mae’r cwmni wedi cyflogi tri o raddedigion dros y 12 mis diwethaf ac yn dilyn hyn mae pob un o’r graddedigion wedi cael cynnig gwaith amser llawn.
Yn 2002 cyflogwyd Jayne Smith gan yr ymgynghorwyr busnes CIOTEK yn Abertawe ar leoliad gwaith ac fe’i gwnaed yn gyfarwyddwr y cwmni o fewn dwy flynedd. Bu gyda’r cwmni am wyth mlynedd ac enillodd gwobrau am ei gwasanaethau ymgynghorol ar gyfer busnesau.
Mae View Creative yn asiantaeth dylunio graffeg a brandio sy’n cynnig gwasanaeth llawn ac a leolir yn nhref lan môr hardd Llandrillo yn Rhos, Gogledd Cymru. Ymunodd Jason Roberts â’r busnes ar leoliad deg wythnos i weithio ar ystod o brosiectau dylunio i gleientiaid.
Bydd tîm GO Wales ar gael i siarad â busnesau yn nigwyddiad Dechrau Newydd Cymru; Arena Rhyngwladol Caerdydd ar 8 a 9 Hydref. Os ydych chi’n bwriadu bod yn bresennol, galwch heibio stondin F51.