GO Wales

Y Diweddaraf

Petersens yn cyrraedd rownd derfynol Gwobrau’r Cyngor Cenedlaethol dros Brofiad Gwaith 2009 to 10
04 Mawrth 2010
Mae Petersens, yr ymgynghoriaeth cysylltiadau cyhoeddus o Gaerdydd, wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau’r Cyngor Cenedlaethol dros Brofiad Gwaith sydd i’w chynnal yn Llundain ar 23 Mawrth 2010.
Llawryddion y dyfodol yn elwa o raglen newydd GO Wales
22 Ionawr 2010
Yn ddiweddar cymerodd 22 o raddedigion ran mewn cwrs unigryw wedi’i deilwra a’i lansio gan GO Wales i ddechrau eu gyrfaoedd llawrydd yng Nghymru. Cynhaliwyd y rhaglen ym Mhrifysgol Morgannwg gan dîm o ymgynghorwyr; ac roedd yn cynnwys dau gwrs tri diwrnod i helpu egin lawryddion i ddatblygu’r sgiliau, hyder a’r wybodaeth sydd eu hangen arnynt i roi eu sgiliau busnes ar waith.
Academi’r Graddedigion yn ehangu ar gyfer 2010
21 Ionawr 2010
Dros y ddwy flynedd nesaf mae disgwyl i 200 o raddedigion elwa o Academi’r Graddedigion GO Wales sy’n anelu at roi’r sgiliau a’r gefnogaeth sydd eu hangen ar raddedigion diweddar i gwrdd â’r her o gael gwaith graddedig.
490 o fyfyrwyr a graddedigion yn cael lleoliadau â thâl
21 Ionawr 2010
Er gwaetha’r dirwasgiad cafodd 490 o fyfyrwyr a graddedigion leoliad gwaith â thâl gyda busnesau ledled Cymru drwy GO Wales y llynedd.
Myfyrwraig yn achub ar gyfle diolch i GO Wales
08 Rhagfyr 2009
Mae GO Wales, a gafodd ei ariannu gan becyn cydgyfeirio gwerth £17 miliwn gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yn gynharach eleni, yn rhoi cyfle i fyfyrwyr a graddedigion fod ar flaen y gad yn y farchnad swyddi bresennol. Mae'r cynllun eisoes wedi cynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd i gael profiad gwaith, hyfforddiant a swyddi, yn ogystal ag ystod o adnoddau gyrfaol defnyddiol ers iddo gael ei sefydlu yn 2003.
Lansio cwrs newydd i raddedigion sydd am weithio yn annibynol yng Nghymru
25 Awst 2009
Bellach gall graddedigion sy’n ymddiddori mewn gweithio’n llawrydd fanteisio ar gwrs hyfforddi newydd a lansiwyd gan GO Wales.
Busnes o Gaerdydd yn elwa o gronfa hyfforddi
24 Awst 2009
Mae Jessica Bobbett yn Rhaglennydd yn Ikona IT Cyf yng Nghaerdydd, ac yn ddiweddar cafodd ei chymeradwyo i dderbyn arian o gronfa Go Wales i fynd ar gwrs hyfforddi Rheoli Prosiect PRINCE 2 yng Nghaerdydd.
Myfyriwr â gradd Dylunio yn datblygu brand ar gyfer dosbarthwr ffrwythau chwyldroadol
10 Gorffennaf 2009
Mae Oliver Lee ar hyn o bryd ar leoliad gwaith GO Wales gyda Practical Innovations yn Abertawe. Mae wrthi’n datblygu’r brand presennol o ddosbarthwr ffrwythau Smart Slice drwy ailddylunio’r wefan a’r deunyddiau marchnata ar gyfer y cynnyrch arloesol hwn, sy’n anelu at wella’r ffordd mae diodydd yn cael eu gweini mewn bariau a chlybiau.
Myfyriwr graddedig o Abertawe yn cael swydd gyda stỳnt greadigol
10 Mehefin 2009
Mae myfyriwr graddedig di-waith a ddefnyddiodd ei amser ar bedwerydd plinth Sgwâr Trafalgar i arddangos copi enfawr o’i CV wedi dechrau ar swydd a gafodd yn sgil ei ymdrech anarferol. Roedd Alex Kearns, 23, wedi bod yn chwilio am waith am fisoedd ar ôl gadael Prifysgol Abertawe yr haf eleni gyda gradd mewn Ffrangeg ac Eidaleg.
GO Wales yn cefnogi adroddiad CBI ar bwysigrwydd
29 Ebrill 2009
Lansiodd Conffederasiwn y Diwydiant Busnes (CBI) adroddiad yn ddiweddar yn amlygu’r angen i fyfyrwyr gael profiad gwaith er mwyn rhoi hwb i’w siawns o gael gwaith yn y dirywiad economaidd.
71-80 o 98 Newyddion