Yr hyn sydd angen i chi ei wybod
Mae gennym ddiddordeb helpu sefydliadau’r sector preifat gyda chostau hyfforddi
a datblygu staff lefel graddedig sy’n arwain at gyflawni cymwysterau, yn enwedig
cymwysterau lefel uwch, fel graddau neu ddiplomâu.
Bwriad y cyllid yw galluogi sefydliadau i gael mynediad at hyfforddiant y bydden
nhw fel arall yn methu â’i fforddio. Rydym yn ariannu 50% o gost cwrs hyd at £1,500
yr unigolyn - y sefydliad sy’n talu’r gweddill.
Beth a phwy y gallwn ni ei ariannu
- Hyfforddiant a datblygiad sy’n arwain at gymhwyster cydnabyddedig
- Cymwysterau sy’n costio dros £300 gan gynnwys TAW
- Mae sefydliadau’r trydydd sector yn gymwys os ydyn nhw hefyd yn BBaCh, ac yn derbyn o leiaf 50% o’u hincwm o ffynonellau preifat
- Bydd y rhan fwyaf o’r hyfforddiant yn syrthio i un o’r categorïau canlynol – busnes a rheoli (hyfforddiant perthnasol i reoli prosiect, marchnata, cyllid, adnoddau dynol, caffaeliad a gweithrediadau generig eraill cysylltiedig â rhedeg a rheoli busnes); TG a chyfrifiadureg; amgylcheddol; cydraddoldeb ac amrywiaeth; gwyddoniaeth, technoleg a pheirianneg; ieithoedd
- Os yw’r hyfforddiant yn arwain at gymhwyster NQF Lefel 4 neu uwch, fel gradd neu ddiploma ôl-raddedig, mae gennym beth hyblygrwydd i gamu y tu allan i’r categorïau a restrir uchod
- Nid oes rhestr o gyrsiau i chi ddewis ohoni – mae angen i chi amlygu’r hyfforddiant sy’n gweddu orau i’ch sefydliad chi
- At ein dibenion ni, staff lefel graddedig yw’r rheiny sydd ag isafswm o HNC neu Dystysgrif Addysgu Uwch (120 credyd ar Lefel 4)
- Nid ydym yn ystyried pryd y graddiodd yr unigolyn rydych chi eisiau ei hyfforddi
- Gall graddedigion sy’n unig fasnachwyr neu sy’n hunangyflogedig ymgeisio