Mae gennym ddiddordeb helpu sefydliadau’r sector preifat gyda chostau hyfforddi
a datblygu staff lefel graddedig sy’n arwain at gyflawni cymwysterau, yn enwedig
cymwysterau lefel uwch, fel graddau neu ddiplomâu.
Bwriad y cyllid yw galluogi sefydliadau i gael mynediad at hyfforddiant y bydden
nhw fel arall yn methu â’i fforddio. Rydym yn ariannu 50% o gost cwrs hyd at £1,500
yr unigolyn - y sefydliad sy’n talu’r gweddill.
Mae holl geisiadau Datblygu a Hyfforddi Graddedigion yn cael eu prosesu gyda help tîm GO Wales pwrpasol.
Cysylltwch â ni ar info@gowales.co.uk neu trwy ffonio 0845 225 60 50 a bydd eich ymholiad yn cael ei roi i un o’n timau Datblygu a Hyfforddi Graddedigion.