GO Wales

GO Wales Astudiaethau Achos

IT

Adam Telford Williams

Peiriannydd Cefnogi Meddalwedd - Gwynedd

"Rwy’n sylweddoli yn awr sut mae’n bosibl i fusnes bach neu ganolig fod ar flaen y gad yn ei maes penodol nhw yn y DU."

Cymerodd Adam Telford Williams, a raddiodd o Brifysgol Bangor gyda gradd mewn Cyfrifiadureg, ran yn ei ail leoliad gwaith cyflogedig a drefnwyd gan GO Wales. Ymunodd Adam ag Anchor Computer Systems Ltd ym Mharc Menai, Bangor am ddeg wythnos i weithio fel Peiriannydd Cefnogi Meddalwedd.

Roedd ei amcanion a’i gyfrifoldebau yn cynnwys ymgyfarwyddo gyda chynnyrch Anchor a system a gweithdrefnau cymorth cyfredol y cwmni. Y brif dasg oedd archwilio buddioldeb ac ymarferoldeb amnewid y rhain a gosod Microsoft Dynamics yn eu lle. Ar ôl pythefnos gyntaf lleoliad Adam, sylweddolodd y cwmni fod ganddo fwy o brofiad nag oedden nhw’n ei ddisgwyl, gan ddod â sgiliau ychwanegol i’r rôl. Estynnwyd ei amcanion i gynnwys trosi, diweddaru ac archifo dogfennau. Roedd Adam yn hapus i gyflawni’r cyfrifoldebau ychwanegol hyn: "er y newid i fy amcanion, llwyddais i’w cyflawni."

 Dyma farn Andy Pogson, Rheolwr Gwaith Anchor, o gynllun GO Wales:

"Mae cyfraniad Adam at y prosiect wedi bod o gymorth mawr. Yn gyffredinol, mae wedi ein galluogi ni i gynyddu allbwn gwaith y ddesg gymorth ac wedi ein galluogi ni i wella ein technegau hyfforddi yn y maes gwaith a roddwyd iddo."

Gweithiodd Adam mor dda o ran mynd y tu hwnt i ddisgwyliadau Anchor, fe benderfynon nhw gynnig swydd barhaol iddo gyda’r cwmni.

Darganfu Adam ei fod yn gallu datblygu ei sgiliau gwaith fel rhan o’r lleoliad gwaith: ‘Oherwydd y llif gwaith parhaus roedd rhaid i mi ddysgu rheoli fy amser a fy nhasgau yn well.’ Yn ogystal, ar ôl gweithio i fusnes bach neu ganolig, sylwodd fod ganddo fwy o ddiddordeb mewn gweithio i fusnes bach neu ganolig yn y dyfodol: "Rwy’n sylweddoli yn awr sut mae’n bosibl i fusnes bach neu ganolig fod ar flaen y gad yn ei maes penodol nhw yn y DU."

Yn gyffredinol, roedd Adam yn hapus iawn o ran yr amser a dreuliodd ar leoliad gwaith gydag Anchor ac mae wedi argymell cynllun lleoliad gwaith GO Wales i’w ffrindiau: "Rwyf mewn dyled i GO Wales ac nid oes modd diolch digon iddynt."

 

 

Share |