GO Wales

GO Wales Astudiaethau Achos

Lowri Elen Evans

Lowri Evans

Biolegydd Dehongliadol - Ynys Môn

Sefydliad: Anglesey Sea Zoo

"Mae gweithio yn y Sw Môr yn hollol wahanol i waith 9-5 arferol. Mae rhywbeth gwahanol yn digwydd bob dydd! Anrhydedd pur oedd gallu gweithio gydag anifeiliaid mor hardd a diddorol sydd i’w canfod ar hyd arfordir Prydain. Roedd y rhain yn amrywio o octopws i lyswennod congren 3m o hyd i forfeirch Prydeinig prin."

Mae Sw Môr Môn yn denu llawer o dwristiaid i Ynys Môn. Yn ddiweddar, fe gynigion nhw ddeg wythnos o waith cyflogedig i fyfyriwr graddedig yn rhan o dîm biolegol y sw. Lowri Elen Evans, sy’n astudio Bioleg y Môr ym Mhrifysgol Bangor, a enwebwyd i wneud y gwaith.

Cafodd Lowri amser gwych yn ystod ei chyfnod yn y sw môr ac eglurodd ei fod yn waith cwbl newydd iddi. Bu’n gysylltiedig â dylunio ac adeiladu tanciau i’w harddangos, casglu, trosglwyddo a bwydo’r anifeiliaid, siarad yn gyhoeddus a siarad â’r cyhoedd. Ym marn Lowri, y sgiliau y gwnaeth hi eu meithrin drwy siarad yn gyhoeddus oedd y rhai mwyaf gwerthfawr.

Ategodd Dylan Evans, mentor Lowri a phartner rheoli’r Sw Môr, pa mor gadarnhaol yw’r cynllun:

‘Fe wnaeth Lowri waith gwych. Buan iawn y llwyddodd i ddeall y canlyniadau roedden ni fel cwmni am eu cyflawni. Felly, roedd hi’n gallu gweithio ar ei phen ei hun a galluogi ein staff biolegol craidd i wneud eu gwaith.’

Gwnaeth gynllun GO Wales gryn argraff ar Dylan ac mae’r Sw Môr yn parhau i gydweithio â’r cynllun oherwydd hynny. Dywedodd Lowri ei bod wedi ennill cymaint o brofiad gwerthfawr yn ystod ei chyfnod gwaith a bod ennill arian ar yr un pryd wedi bod yn ysgogiad ychwanegol, ‘Rydw i’n ei argymell i fy holl ffrindiau sy’n raddedigion!’

Share |