Craig Evans
Sefydliad: Super Rod Ltd
Cymerodd Craig ran mewn lleoliad gwaith GO Wales fel cynorthwyydd dylunio graffig/cynnyrch yn Super Rod, lle cynigiwyd swydd barhaol iddo erbyn hyn. Dyma stori Craig.
“Roedd fy lleoliad gwaith gyda Super Rod yn wych gan ei fod yn fy ngalluogi i ddefnyddio’r wybodaeth a ddysgais ar fy nghwrs dylunio yng Ngholeg Banbury ac roedd gennyf gyfres o rolau i’w cyflawni. Rwyf wedi cynhyrchu taflenni, sticeri a deunyddiau marchnata amrywiol. Rwyf hefyd wedi cymryd rhan mewn cyflwyno cynnyrch, datblygu cynnyrch, lluniadu technegol ac rwyf hyd yn oed yn gweithio ar gatalog ar gyfer cynnyrch Super Rod."
"Tra ar fy lleoliad, gorffennais y cymhwyster City & Guilds yr oedd GO Wales yn fy ariannu i’w gwblhau. Roedd y cwrs yn hynod ddefnyddiol, galluogodd fi i osod nodau mesuradwy, targedau ac i strwythuro fy hun o fewn rôl y swydd. Mae’n rhaid cyfaddef nad oeddwn yn credu y byddai o fudd i mi pan ddechreuais ar y cymhwyster ond, ar ôl dechrau ar y cwrs, fe’i cefais yn amhrisiadwy gan sicrhau y byddwn yn gwneud gwaith da ar y lleoliad. O ganlyniad i gyflawni’r lleoliad mae fy sgiliau cyfathrebu a’m sgiliau dylunio wedi gwella’n ddramatig. Rwyf wedi derbyn llawer o gymorth ar fy lleoliad ac ar ôl cael fy ngwneud yn barhaol rwyf wedi mynychu cyrsiau hyfforddi i ddatblygu fy ngwybodaeth o becynnau meddalwedd penodol ymhellach. Rwyf bellach mewn swydd rwy’n ei charu ac wedi tyfu’n anferthol o ran fy sgiliau dylunio.”
Trafododd cyfarwyddwr Super Rod, sef Malcom Duncan, ei brofiad o gael unigolyn ar leoliad gwaith. “Gwnaeth gwasanaeth ariannu GO Wales argraff dda arnaf gan ei fod yn hyblyg a heb ei reoli, felly roedd yn bosibl i ni gael llawer o fewnbwn yn y modd roeddem yn cynnal y lleoliad."
"Mae’n ffordd ffantastig i ddod â set sgiliau penodol i mewn i sefydliad neu i gynnal prosiect byr. Uchafbwynt y lleoliad oedd gweld rhywun â dawn grai ac agwedd dda yn datblygu ac yn cynhyrchu gwaith o safon uchel. Mae gwaith Craig wedi creu argraff hynod dda arnaf ac rwy’n hapus i’w groesawu i’r sefydliad yn barhaol. Os oedd unrhyw sefydliad yn ystyried cymryd unigolyn graddedig ar leoliad gwaith byddwn yn bendant yn dweud wrthynt ei fod yn hollol angenrheidiol eich bod yn sicrhau eich bod yn buddsoddi eich amser mewn helpu’r lleoliad er mwyn sicrhau bod y ddwy ochr yn cael y mwyaf allan o’r cynllun.”