GO Wales

GO Wales Astudiaethau Achos

Outperform UK Ltd

David Ashton

Prosiect Cynorthwyo a Datblygu Gwerthiant Busnes - Sir Ddinbych

Sefydliad: Outperform

O fy safbwynt i, roedd y lleoliad yn union yr hyn oedd ei angen arnaf ar gyfer fy natblygiad proffesiynol.

Mae David Ashton yn fyfyriwr Busnes a Marchnata israddedig sy’n astudio ym Mhrifysgol Sheffield Hallam ar hyn o bryd.

Gyda phwy oedd eich lleoliad gwaith?

“Mae Outperform UK Ltd yn gwmni ymgynghori ar reolaeth yn Sir Ddinbych.”

Dywedwch wrthym am eich prosiect?

“Roedd Outperform yn chwilio am fyfyriwr graddedig gyda sgiliau Rheoli Busnes/Marchnata i lansio delwedd newydd sbon, a bûm yn cynorthwyo’r tîm gwerthu gydag ail-frandio holl ddeunyddiau gwerthu a gweithredu Outperforms.”

A oedd y lleoliad yn llwyddiant?

“O fy safbwynt i, roedd y lleoliad yn union yr hyn oedd ei angen arnaf ar gyfer fy natblygiad proffesiynol. Mae’r profiad wedi rhoi mewnwelediad llawer cliriach i mi i’r math o lwybr gyrfa rydw i eisiau canolbwyntio arno; mae’r sgiliau a’r wybodaeth rydw i wedi’u hennill yn drosglwyddadwy iawn, felly rydw i’n teimlo y gallwn i wneud argraff mewn nifer o amgylcheddau gwaith.”

Beth wnaeth Outperform elwa o ganlyniad i’ch lleoliad gwaith?

“Soniodd Outperform fy mod i wedi dod â llawer o syniadau ffres i’r cwmni. Roedd rhan o fy lleoliad gwaith yn cynnwys marchnata firaol a rhwydweithio cymdeithasol a arweiniodd at gynnydd mewn gwerthiant ac ymwybyddiaeth.”

Gwnaethoch sôn am sgiliau, pa sgiliau rydych chi wedi’u datblygu?

“Rheoli amser a rheolaeth yw fy sgiliau mwyaf datblygedig, a byddant yn helpu fy astudiaethau wrth ysgrifennu aseiniadau ac wrth ymchwilio pan fyddaf yn mynd yn ôl i’r Brifysgol.”

Sut ydych chi’n teimlo ynglŷn â gweithio mewn busnes bach neu ganolig?

“O safbwynt gyrfa, byddwn yn hoffi dechrau gweithio mewn cynllun i raddedigion, er, byddai gen i ddiddordeb gweithio i Gwmni Bach neu Ganolig eto yn y dyfodol.”

Sut byddech chi’n crynhoi eich profiad?

“Roedd fy lleoliad yn brofiad dysgu hynod werthfawr i mi, ac mae wedi fy ysgogi i fynd yn ôl at fy astudiaethau a pherfformio i orau fy ngallu. Hoffwn ddiolch i’r cwmni y bûm ar leoliad gyda nhw am roi’r cyfle i mi wneud gwaith sydd wedi rhoi hwb i fy mhrofiad gwaith.”

Share |