Rebecca Kate Hawkins
Sefydliad: Boulders Ltd
Drwy leoliad gwaith gyda GO Wales llwyddodd Rebecca Hawkins ennill profiad ymarferol gwerthfawr ym myd marchnata; cymerodd ran mewn lleoliad 12 wythnos gyda chanolfan ddringo Boulders yng Nghaerdydd lle'r oedd chwarae rhan bwysig yn symud y cwmni ymlaen.
Ei briff oedd ymchwilio a datblygu strategaeth farchnata i ddatblygu brand Boulders a chynyddu’r defnydd o’r ganolfan.
Cafodd Rebecca’r cyfle i ddefnyddio ystod o fentrau marchnata a roddodd y cyfle iddi ddefnyddio’r ochr theori a ddysgodd yn y Brifysgol mewn amgylchedd ymarferol, hon oedd swydd gyntaf Rebecca ar ôl iddi raddio:
“Roedd rhaid i mi greu ymwybyddiaeth o Boulders a defnyddiais strategaethau marchnata corfforaethol i ennyn diddordeb busnesau i ddefnyddio Boulders ar gyfer eu hyfforddiant personol a hyfforddiant adeiladu tîm drwy ein hymarferion heriol ar gyfer adeiladu tîm.”
“Cefais y cyfle i ddefnyddio ystod eang o gyfryngau marchnata, CC, pecynnau marchnata hawlfraint ar gyfer busnesau a chydweithies gyda dylunwyr i helpu cynllunio taflenni data ar gyfer gosod digwyddiadau arddangos corfforaethol.”
“O ganlyniad cefais gyfle i ymarfer yr hyn a ddysgais yn y Brifysgol ac rwy’n teimlo fy mod wedi gwneud gwahaniaeth a chael canlyniadau mesuradwy. Ar ôl fy lleoliad cefais gynnig swydd amser llawn gyda Boulders.”
Roedd Robert Lawrence, Rheolwr Marchnata a Brand Boulders yn hapus dros ben â chanlyniad y lleoliad:
“Yn ystod ei phrosiect cynyddodd Rebecca refeniw Boulders drwy ddatblygu strategaeth farchnata. Fel busnes ifanc sy’n gobeithio tyfu roedd penodi staff amser llawn yn gam mawr, a thrwy GO Wales cawsom y cyfle i dreialu recriwtio graddedigion a nawr rydym wrth ein bodd bod Rebecca wedi cael cynnig swydd amser llawn gyda’r cwmni.”