Anthony Beck
Sefydliad: Eclipse Medical Innovations Ltd.
Roedd cwmni Eclipse Medical Innovations yn chwilio am unigolyn â gradd i ddatblygu eu swyddogaeth e-farchnata. Bu Anthony Beck yn gweithio ar ddatblygu siop ar-lein y cwmni a gwneud y mwyaf o’u chwilotwr.
Cwmni newydd yw Eclipse Medical Innovations sy’n canolbwyntio ar werthu cynnyrch meddygol i’r farchnad Iechyd Galwedigaethol a Gofal Sylfaenol. Roedd angen rhywun arnynt i gynnal ei siop ar-lein a’u galluoedd e-farchnata er mwyn datblygu’r busnes ymhellach.
Mae Anthony Beck wedi creu siop we ar-lein ardderchog ar gyfer y cwmni sy’n gwerthu cannoedd o gynhyrchion. Yn ogystal, bu’n gweithio ar ystod o fentrau e-farchnata yn ystod ei leoliad.
“Mae’r prosiect hwn wedi bod yn brofiad ardderchog i fi gan fy mod wedi cael y cyfle i greu siop-ar-y-we, rhoi’r cynnyrch ar y wefan, datblygu ochr optimeiddio peiriant chwilio’r busnes er mwyn sicrhau ein bod yn ymddangos yn amlwg mewn canlyniadau chwilio Google, rwyf wedi datblygu ymgyrchoedd marchnata drwy’r e-bost, a hysbysebion ar-lein drwy Google Adwords.”
“Mae traffig y wefan yn cynyddu o ddydd i ddydd. Mae’r wefan wedi bod yn cynhyrchu nifer o werthiannau a gobeithio y bydd yn cynyddu pan fyddaf yn cyflwyno mwy o gynnyrch ar y system.”
“Hefyd, rwyf yn creu catalog 40 tudalen gan ddefnyddio Photoshop; bydd hwn yn cael ei roi mewn cylchgrawn iechyd galwedigaethol. Bydd y catalog yn cael ei argraffu ac fe ddylai hyn ein lansio go iawn yn y farchnad Iechyd Galwedigaethol.”
Mae Ian Mortimer, Rheolwr Cyffredinol Eclipse Medical Innovations, eisoes wedi cynnig swydd i Anthony gyda’r cwmni yn dilyn y lleoliad hwn.
“Mae Anthony wedi trawsnewid gwefan o’r silff, yn siop-ar-y-we ac offer marchnata effeithiol dros ben. Mae gennym Optimeiddiad Peiriant Chwilio rhagorol ar ein gwefan a dolenni adeiladu trawiadol drwy gyfrwng twitter a Facebook ac ati. Mae wedi rhagori mewn datblygu ein catalog rhagarweiniol ein hunain a chynhyrchu ymgyrchoedd marchnata e-bost. Yn ogystal, mae wrthi’n datblygu ein rheng flaen ar gyfrifon SAP.”
“Nid oedd gennym alluoedd e-farchnata cyn i Anthony ddechrau ar ei leoliad gwaith ac mae’n hanfodol ein bod yn datblygu’r rôl hon os yw’r cwmni am lwyddo. Rwyf wedi penodi Anthony yn Reolwr TG a Gwefan, ochr yn ochr â Raj Singh, perchennog y cwmni, ac mae wedi gwneud digon o argraff arnom i sicrhau y bydd swydd barhaol ar gael iddo ar ddiwedd ei leoliad.”