Sefydliad: West Coast Network Services, Sir y Fflint
Graddiais o Brifysgol Caerhirfryn yn haf 2012 â gradd mewn Rheoli ac Entrepreneuriaeth. Er i mi symud i ffwrdd i’r Brifysgol roeddwn yn awyddus iawn i ddod yn ôl a gweithio yng Ngogledd Cymru.
Sefydliad: Y Lolfa, Ceredigion
Cynigodd y cyhoeddwyr llyfrau Cymreig, Y Lolfa, Leoliad Gwaith i Branwen Hughes yn rheoli eu cyhoeddiadau ar-lein. Blwyddyn yn ddiweddarach mae Branwen, a raddiodd o Aberystwyth, yn Rheolwraig Marchnata ar y cwmni.
Sefydliad: Dwr Cymru Welsh Water , Merthyr Tudful
Roedd Jamie Gumery, a raddiodd mewn Cyfrifiaduron Fforensig, yn chwilio am waith o fewn ei faes diddordeb ond yn teimlo nad oedd ganddo’r profiad i reoli prosiectau. Gwnaeth gais am Leoliad Gwaith GO Wales gyda Dŵr Cymru er mwyn datblygu’r sgiliau roedd yn gobeithio eu hennill, a llwyddodd i gael estyniad ar ei gontract gyda’r cwmni.
Sefydliad: British Biocell International Limited, Caerdydd
Nid oedd Julija Yaroshevska, a raddiodd mewn Cyfrifeg a Chyllid, yn siwr mai dewis gyrfa mewn cyfrifeg a chyllid fyddai’r peth iawn iddi hi. Cyflwynodd gais am Leoliad Gwaith GO Wales er mwyn darganfod sut beth fyddai gweithio i’r sector mewn gwirionedd. Arweiniodd hyn at gytundeb estynedig gyda British Biocell International Ltd.
Sefydliad: Sinfonia Cymru, Caerdydd
Drwy gyfuno’r myfyrwyr cerdd mwyaf dawnus a cherddorion proffesiynol ifainc, mae Sinfonia Cymru yn cefnogi cerddorion ifainc ar ddechrau eu gyrfaoedd proffesiynol; maent wedi recriwtio Matthew Green, myfyriwr a raddiodd mewn Cerddoriaeth, dros gyfnod yr haf i’w cynorthwyo i weinyddu eu gweithgareddau cerddorfaol am gyfnod o 10 wythnos.
Sefydliad: NPT Homes Ltd, Castell-nedd Port Talbot
"Ar ôl cwblhau fy ngradd prifysgol, roeddwn i’n ei chael hi’n anodd dod o hyd i swydd, yn bennaf oherwydd fy niffyg profiad. Pan ddarganfyddais wefan GO Wales, roedd lleoliad gwaith yn ymddangos yn berffaith am ddau reswm - byddai’n caniatáu i mi ennill profiad ymarferol, a hefyd, yn caniatáu i mi benderfynu a oeddwn i mewn gwirionedd eisiau dilyn gyrfa yn y dyfodol yn y sector TG."
Sefydliad: Printing.com, Abertawe
Cysylltodd y cwmni brandio a dylunio argraffu Colourbox Creative o Abertawe â ni gyda gorchwyl prosiect; roedd angen unigolyn graddedig arnynt i dderbyn cyfrifoldeb llawn am ddatblygu eu gwasanaeth mewnol ar gyfer ymholiadau cwsmeriaid; rhoi gweithdrefnau ar waith a fyddai’n helpu’r busnes i weithredu’n esmwyth a gwella’r elfen gwasanaeth i gwsmeriaid.
Sefydliad: Golwg Newydd, Ceredigion
Owain Schiavone yw Prif Weithredwr Golwg Newydd sy’n gyfrifol am wasanaeth treigl y newyddion yn Gymraeg, Golwg360.com, a recriwtiodd Guto Dafydd, sy’n siarad Cymraeg ac yn raddedig o Brifysgol Aberystwyth, fel Cydlynydd ar gyfer adran Newyddion Chwaraeon y wefan. Dyma Owain yn esbonio sut aeth y prosiect;
Sefydliad: Brecon Cathedral, Powys
Yn ystod ei lleoliad gwaith yn Eglwys Gadeiriol Aberhonddu bu Jade Hughes yn gweithio ochr yn ochr â'r Rheolwr Marchnata ar brosiectau a gweithgareddau i gefnogi cynhyrchu refeniw i’r Eglwys Gadeiriol. Cynhyrchodd Jade gwerth £26,000 o incwm ar gyfer Eglwys Gadeiriol Aberhonddu yn ystod ei phrofiad. Mae'n esbonio:
Sefydliad: MijMoj Contemporary Furniture Design, Conwy
Ar ôl iddo raddio, recriwtiwyd Peter Jervis gan gwmni dylunio dodrefn cyfoes MijMoj yng Ngogledd Cymru drwy gynllun Lleoliad Gwaith GO Wales, i’w cynorthwyo gyda phrosiect dylunio cynnyrch; i weithio ar ystod newydd o gynhyrchion o’r cysyniad cychwynnol hyd eu cynhyrchu. Esboniodd y dylunydd Gafyn Owen;
Sefydliad: ISCA UK Ltd, Caerffili
Mae Jonathan Walker, a astudiodd radd a doethuriaeth mewn Cemeg ym Mhrifysgol Caerdydd, wedi cael lleoliad gwaith gwych yn ddiweddar yn ISCA UK trwy Academi’r Graddedigion GO Wales. Mae ISCA UK yn gweithgynhyrchu cemegau a pholymerau arbenigol ar gyfer gofal personol.
Sefydliad: Locws International Limited , Abertawe
Cymerodd Lucy Read, a raddiodd yn y Celfyddydau Cain o Brifysgol Fetropolitan Abertawe, ran mewn lleoliad gwaith 10 wythnos gyda Locws International; sef sefydliad dan arweiniad artistiaid sy’n gweithio ar brosiectau’r celfyddydau gweledol ar gyfer mannau cyhoeddus a hygyrch ar draws dinas Abertawe.
Sefydliad: Anglesey Sea Zoo, Ynys Môn
Mae Sw Môr Môn yn denu llawer o dwristiaid i Ynys Môn. Yn ddiweddar, fe gynigion nhw ddeg wythnos o waith cyflogedig i fyfyriwr graddedig yn rhan o dîm biolegol y sw. Lowri Elen Evans, sy’n astudio Bioleg y Môr ym Mhrifysgol Bangor, a enwebwyd i wneud y gwaith.
Sefydliad: Eurobond Laminates, Caerdydd
Bu Huw Williams, myfyriwr blwyddyn olaf mewn Peirianneg Fecanyddol ym Mhrifysgol Caerdydd, ar leoliad gwaith am 12 wythnos yn ystod yr haf gyda Eurobond Laminates. Mae Huw yn esbonio sut y gwnaeth yr amser a dreuliodd gyda’r cwmni ei roi ar ben y ffordd ar gyfer gyrfa mewn peirianneg.
Sefydliad: Heritage Attractions, Gwynedd
Am ddegawdau byddai gorsaf-feistri ar gopa’r Wyddfa yn paratoi’r teithwyr at eu disgyniad gan chwythu ei chwiban. Roedd hynny cyn i feistri Rheilffordd yr Wyddfa benderfynu bod angen dull newydd, gwell, gan gyflogi dau fyfyriwr arloesol o Brifysgol Bangor i osod system sain a oedd yn torri tir newydd yng nghanolfan ymwelwyr newydd y copa, Hafod Eryri.
Sefydliad: View Creative, Conwy
Mae View Creative yn asiantaeth dylunio graffeg a brandio sy’n cynnig gwasanaeth llawn ac a leolir yn nhref lan môr hardd Llandrillo yn Rhos, Gogledd Cymru. Ymunodd Jason Roberts â’r busnes ar leoliad deg wythnos i weithio ar ystod o brosiectau dylunio i gleientiaid.