GO Wales

GO Wales Astudiaethau Achos

Chris Wilding

Christopher John Alan Wilding

Profiad Cyfrifeg

Sefydliad: Business Sense

“Yn gyffredinol, roedd y profiad yn un cadarnhaol, roedd y tasgau a gefais nid yn unig yn berthnasol ac yn briodol ar gyfer fy helpu i ddysgu mwy am gwblhau cyfrifon go iawn."

Mae Chris Wilding sy’n astudio ar gyfer Gradd mewn Economeg Busnes ym Mhrifysgol Abertawe ar hyn o bryd wedi gorffen Blas ar Waith yn Business Sense yn Abertawe llynedd. Yn ystod y profiad cafodd Chris fewnwelediad i weithredoedd cwmni cyfrifyddiaeth bach o ddydd i ddydd;

 “Mae gweithio gyda Business Sense wedi rhoi llawer o gyfleoedd i mi o ystyried yr amrywiaeth o wasanaethau a chynhyrchion maent yn eu cynnig. O ddydd i ddydd, byddwn fel rheol yn helpu i archwilio busnesau bach a lleol, byddai hyn yn golygu rhifo’r refeniw a’r treuliau, cymodi datganiadau banc a gweithio gyda’r ddeddf dreth gyfredol ochr yn ochr â HRMC i helpu busnesau i finimeiddio eu cyfrifoldeb treth.” 

Yn gyffredinol, roedd y profiad yn un cadarnhaol, roedd y tasgau a gefais nid yn unig yn berthnasol ac yn briodol ar gyfer fy helpu i ddysgu mwy am gwblhau cyfrifon go iawn. Roedd y staff yn gyfeillgar dros ben, byddai’r perchnogion yn siarad â mi gydol y dydd a gofyn i fi’n benodol a oeddwn am wybod neu ddysgu am rywbeth neu'i gilydd.  Os nad oeddwn yn hoff iawn o rai o’r tasgau byddwn yn gofyn iddynt am rywbeth gwahanol a doedd hynny byth yn broblem.”

Diolch i’r profiad gafodd, mae Chris wedi llwyddo i wneud rhai penderfyniadau pwysig am ei yrfa yn y dyfodol a pha agweddau o gyfrifeg sydd orau ganddo;

“O’m rhan i’n bersonol, nid yw wedi newid fy meddwl ynglŷn â bod yn gyfrifydd. Ar ôl cael yr anrhydedd o weithio mewn cymaint o wahanol feysydd cyfrifeg yn ystod fy nghyfnod blas ar waith, mae rhai meysydd yn well gennyf nag eraill. Rwyf wedi penderfynu fy mod wedi mwynhau gweithio mewn minimeiddio Treth a’r HMRC yn hytrach na rheoli cyfrifon â meddalwedd sage”

“Mae’r farchnad waith yn mynd yn fwy a mwy anodd, mae cyflogwyr yn chwilio am fwy o unigolion sy’n sefyll allan ac wedi mynd y tu hwnt i’w cyraeddiadau academaidd, er bod hwn yn swnio braidd yn ystrydebol. Efallai y byddwch yn clywed llawer am hynny gan recriwtiaid graddedigion, mae’n hanfodol eich bod yn dangos eich bod wedi cael profiad gwaith perthnasol a’ch bod wedi dysgu ac yn defnyddio sgiliau a chymwysterau craidd sydd yn angenrheidiol ar gyfer y ddarpar rôl rydych yn ceisio amdani.”

 

Share |