Sarah Drury
Sefydliad: The National Trust
Roedd Sarah Drury am gael profiad mewn amgylchedd sy'n ymwneud ag adeiladau hanesyddol, ac roedd yn awyddus i ddysgu mwy am weithio i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn benodol.
Mae Sarah wedi datblygu nifer o sgiliau o ganlyniad i'r sesiwn blasu, ynghyd â chael y cyfan yn brofiad dysgu defnyddiol. Cafodd Sarah brofiad mewn amrywiaeth o rolau o fewn y Castell, a threuliodd amser yn cynorthwyo gydag ymarferiad marchnata, helpu'r tîm Addysgu i baratoi ar gyfer diwrnod Hwyl i’r Teulu a chynorthwyo ar y diwrnod, cysgodi'r Rheolwr Tŷ a Gwasanaethau Ymwelwyr a'r Goruchwyliwr Tŷ. Dywedodd:
“Mae sesiynau blasu yn gynllun rhagorol ar gyfer myfyrwyr sydd am brofi unrhyw yrfa maent yn ymddiddori ynddi ac am ei dilyn. Roedd y cyfnod penodol hwn yn cynnig profiad uniongyrchol i mi weithio mewn adeilad hanesyddol.”
“Mae wedi bod yn gyfnod gwerth chweil gan ei fod yn ddiddorol yn ogystal â phleserus. Cefais y cyfle i brofi nifer o agweddau ar weithio yn yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac rwy'n ddiolchgar am y cyfnod a dreuliais yng nghwmni'r staff a'r gwirfoddolwyr cyfeillgar a phrofiadol yn y Castell.”