Christina Deias
Sefydliad: ITV
Trefnodd GO Wales gyfle i Christina Deias wneud Blas ar Waith gydag ITV Cymru. Cymerodd Christina ran mewn nifer o dasgau amrywiol yn ystod y pythefnos dreuliodd hi yn y stiwdios. Dyma ei hanes hi;
"Roeddwn am gael cyfle i fynd at ITV Cymru fel myfyriwr ar brofiad gwaith er mwyn cael mewnwelediad go iawn i fyd teledu. Roeddwn yn hynod o hapus pan gefais gynnig Blas ar Waith gan nad yw cyfle mor ardderchog yn hawdd i’w gael; mae’r gystadleuaeth yn gryf a’r lleoedd yn brin mewn sefydliad mor fawr yn y cyfryngau."
"Treuliais bythefnos yn ystafell newyddion ITV Cymru lle bûm yn cymryd rhan mewn nifer o weithgareddau a chyflawni lawer o dasgau. Treuliais ran fawr o’m profiad gwaith gyda thîm gwe ITV Cymru, lle ysgrifennais ar gyfer tudalennau blog ITV Cymru. Ysgrifennais gopi gwe adeg rhyddhau canlyniadau Lefel A a TGAU eleni, a chynhaliais lawer o waith ymchwil, gan ddod o hyd i negeseuon pob lwc a llongyfarchiadau gan wylwyr ITV ledled Cymru. Hefyd, ysgrifennais ddarn ar beth i’w wneud yng Nghymru ar benwythnos gŵyl banc ym mis Awst, yn ogystal ag erthyglau eraill. Cydlynais ‘bythefnos o luniau’ ITV Cymru drwy ddewis lluniau a anfonwyd i mewn gan bobl yng Nghymru i’w rhoi ar eu tudalennau blog. Mwynheais bob munud o’r tasgau hyn, gan iddynt fy nysgu i sut i ddefnyddio pecynnau rhyngrwyd ar gyfer ysgrifennu ar y we a sut i ymchwilio i eitemau penodol yn ofalus fel rhan o dîm newyddion ar y we. Roeddwn yn hynod o falch pan gyhoeddwyd fy ngwaith ar-lein. Yn ogystal â gweithio gyda thîm y we, treuliais amser gyda chynhyrchydd cynorthwyol ITV Cymru, yn oriel ITV Cymru, yn stiwdio recordio’r newyddion gan helpu’r tîm cynllunio i gynllunio ac ymchwilio i storïau newyddion yng Nghymru."
"Mae fy mhrofiad i yn ITV Cymru wedi fy helpu i benderfynu ar fy llwybr gyrfaol i’r dyfodol, a chynllunio ar ei gyfer gan fy helpu i sylweddoli pa mor bwysig yw hi i gwrdd â phobl yn y cyfryngau. Rwy’n bwriadu mynd i faes cysylltiadau cyhoeddus, ac mae cysylltiadau o fewn diwydiant y cyfryngau yn hanfodol. Rwyf wedi cyfarfod â chymaint o bobl fendigedig tra’n gweithio yn ITV Cymru, ac mae eu cyngor cadarn o ran rhwydweithio a chyfathrebu’n effeithiol gyda phobl wedi fy helpu i sylweddoli pa mor bwysig yw hi i fod yn gyfathrebwr da. Mae hyn yn hynod o ddefnyddiol gan ei fod yn berthnasol o ran cysylltiadau cyhoeddus fel diwydiant sy’n dibynnu ar gyfathrebu gyda’r cyfryngau."
"Byddwn yn bendant yn cymeradwyo Blas ar Waith i fyfyrwyr a graddedigion. Nid oes dim yn debyg o ran darganfod sut le yw’r gweithle na chael y cyfle i fod ynddo ac wedyn gallwch weld ai dyna’r llwybr rydych am ei ddilyn yn y dyfodol. Drwy siarad â’r bobl sy’n gweithio yn y diwydiant yn ddyddiol a gwrando ar yr hyn sydd ganddynt i’w ddweud am eu gwaith a’u gyrfa, rydych yn deall y diwydiant hynny’n well. Credaf nad oes cyfle gwell i ennill mewnwelediad na chyfle Blas ar Waith yn y maes rydych am ei ddilyn. Rwy’n teimlo’n hynod o ffodus fy mod wedi cael cyfle i weithio gydag ITV Cymru, a hyd yn oed yn fwy ffodus eu bod wedi gofyn i mi fynd yn ôl i wneud gwaith pellach gyda’r tîm yn y dyfodol."