Gall GO Wales eich helpu chi i ennill y blaen ym marchnad gystadleuol swyddi heddiw.
Mae gennym ystod eang o brofiad gwaith a chyfleoedd hyfforddi, swyddi ac ystod o adnoddau i’ch helpu chi i ddatblygu eich gyrfa.
Yn dilyn adborth cadarnhaol gan ein cyfranogion, mae’n bleser gennym gyhoeddi ein bod wedi derbyn cyllid pellach a fydd yn ein galluogi i barhau â’n gwasanaethau am dair blynedd arall. Mae un newid yn ein cynnig – rydym bellach yn gweithio gyda graddedigion a myfyrwyr yn y ddwy flynedd olaf o’u cyrsiau. Mae llawer o hyd i’w gynnig ar gyfer myfyrwyr blwyddyn gyntaf yn eich Gwasanaeth Gyrfaoedd yn y Brifysgol ac mae croeso i chi gymryd rhan yn GO Wales ar ôl i chi gwblhau eich blwyddyn gyntaf.
Gwnewch gais am brofiad gwaith achrededig â thâl drwy Lleoliadau Gwaith >
Gwnewch gais i gael blas ar sector busnes neu ddiwydiant gyda Blas Ar Waith >
Byddwch yn haws eich cyflogi a chael swydd graddedig gyda chymorth
Academi Raddedigion >
Dysgwch sut i fod yn weithiwr llawrydd llwyddiannus gydag Academi’r Gweithwyr Llawrydd >
Ceisiwch at gyllid er mwyn datblygu eich sgiliau gyda Hyfforddi a Datblygu Graddedigion >
Os ydych yn chwilio am swyddi gwag yng Nghymru, ewch i Swyddi Graddedigion >
Mewn ymdrech i gefnogi datblygu lefel uwch o sgiliau a chadw gweithwyr wedi graddio yn economi Cymru, mae GO Wales, y cynl...
Cysylltodd y cwmni brandio a dylunio argraffu Colourbox Creative o Abertawe â ni gyda gorchwyl prosiect; roedd angen unigo...
Gweler mwy o astudiaethau achos isod:
Er mwyn cymryd rhan yng ngwasanaethau GO Wales mae’n rhaid bod gennych gyfeiriad yng Nghymru a’ch bod naill ai’n astudio mewn sefydliad addysg uwch, neu’n fyfyriwr graddedig sydd eisiau datblygu eich gyrfa yng Nghymru.
Os ydych yn astudio yng Nghymru ar hyn o bryd, rhaid eich bod yn ddinesydd gwlad sy’n aelod o’r UE neu’r Ardal Economaidd Ewropeaidd (neu’r Swistir). Dylai graddedigion nad ydynt yn ddinasyddion gwlad sy’n aelod o’r UE neu’r Ardal Economaidd Ewropeaidd wirio a ydynt yn gymwys ar y tudalen gwybodaeth bellach.
Mae gan bob un o’n gwasanaethau ei ofynion cymhwysedd ei hun. I weld y rhain yn llawn, ewch i’r dudalen mwy o wybodaeth.