Mae’r rhaglen yn cynnig cyfleoedd gwaith o safon dros o leiaf 6 mis. Byddwch yn rhan o gwmni, ac yn ddarostyngedig i delerau ac amodau’r cyflogwr rydych yn gweithio iddo ac mae pawb sy’n gweithio mewn swydd Twf Swyddi Cymru yn derbyn tâl. Mae’r cyfleoedd wedi eu hanelu at raddedigion ifanc neu gyfwerth sy’n barod am waith ond sy’n ei chael hi’n anodd dod o hyd i gyflogaeth.
I fod yn gymwys ar gyfer y rhaglen hon bydd angen eich bod:
- Yn meddu ar radd, Diploma Addysg Uwch, neu Dystysgrif Addysg Uwch neu gyfwerth
- Di-waith neu’n gweithio llai na 16 awr yr wythnos
- Yn 24 oed neu iau
- Ddim mewn addysg amser llawn
- Yn byw yng Nghymru
Y buddion yw:
- 6 mis o waith cyflogedig y mae’n debyg iawn y bydd yn arwain at gyflogaeth barhaus
- Y cyfle i wella eich gwybodaeth a’ch sgiliau lefel graddedig
Am ragor o wybodaeth Chwiliwch a gwnewch gais am swyddi gwag >