GO Wales

Newyddion GO Wales

Ennill profiad dros yr haf!

Croeso i rifyn mis Mehefin o Newyddion GO Wales. Dyma'r cyfnod prysuraf i ni wrth i fyfyrwyr a graddedigion chwilio am brofiad gwaith dros yr haf mewn diwydiannau ar hyd a lled Cymru.

Mae'n debyg eich bod wedi clywed y neges hon o'r blaen felly, ond ennill profiad gwaith o ansawdd yw'r unig ffordd i dynnu sylw atoch chi'ch hun a'ch helpu i sicrhau eich gyrfa ddelfrydol.

Dyma hanes y myfyrwyr a gymerodd ran yn rhaglen yr haf y llynedd...

 

Cymerodd Justine Westall ran mewn lleoliad gwaith dros yr haf y llynedd i ennill profiad ym maes animeiddio, ac mae hi'n dal wrth ei bodd â'r canlyniadau flwyddyn yn ddiweddarach:

“Y llynedd bues i'n gweithio am 6 wythnos i gwmni animeiddio annibynnol o'r enw Youtoonz. Fy mhrif ddyletswyddau oedd dylunio cefndiroedd ac incio rhai fframiau animeiddio traddodiadol hyfryd fel rhan o waith hyrwyddo gwefan y cwmni.”

“Flwyddyn yn ddiweddarach dwi'n dal i fod mewn cysylltiad â chyfarwyddwyr y cwmni, ac ar hyn o bryd dwi'n gweithio ar brosiect animeiddio arall iddyn nhw. Byddaf yn cael fy nhalu am fy ngwaith dan gytundeb contract ac yn derbyn tâl comisiwn am werthiant y cynnyrch. Mewn gwirionedd dwi wedi datblygu i fod yn animeiddiwr ar fy liwt fy hun!”

“Dwi wrth fy modd â'r penrhyddid sydd gennyf i fod yn greadigol, ac mae gohebiaeth e-bost yn sicrhau adborth ac awgrymiadau dyddiol, yn ogystal â llif cyson o waith. Ar hyn o bryd, dwi'n dylunio cymeriadau ac yn gwneud gwaith animeiddio ac incio, a dwi'n hynod o falch fy mod yn gallu gwerthu darnau o fy ngwaith fy hun.”

“Rhwng popeth fe wnes i ddysgu llawer mwy yn sgil fy mhrofiad gwaith yn Youtoonz na'r hyn a ddysgais mewn blwyddyn yn y Brifysgol. Dwi wrth fy modd yn gweithio gydag animeiddwyr/arlunwyr dawnus, ac mae'r amgylchedd hwn wedi fy ysbrydoli a chadarnhau fy nghariad at animeiddio a'm hawydd i ddilyn gyrfa yn y maes hwn.”

Cafodd Claudia Tetteh brofiad gwaith gyda Chymdeithas Tai Cadwyn dros yr haf, ac mae hi'n teimlo i'r profiad fod yn ddefnyddiol iawn i'w chwrs gradd mewn cyfrifeg:

“Llwyddodd y profiad gwaith i'm helpu i gysylltu'r hyn dwi'n ei ddysgu yn y brifysgol, sef yr elfen ddamcaniaethol, â'r byd gwaith ymarferol. Roedd yn fy helpu i weld perthnasedd yr hyn dwi'n ei astudio, yn enwedig mewn perthynas â defnyddio meddalwedd gyfrifeg.”

“Mae'r profiad hefyd wedi fy helpu i ysgrifennu fy CV a cheisiadau am swyddi er mwyn symud i'r cam nesaf yn y broses ymgeisio. Dwi wedi gwella fy CV hefyd gan fod gennyf eirda gwych i'w ddefnyddio wrth ymgeisio am swyddi yn y dyfodol.”

“Mae fy sgiliau cyfathrebu a rhifedd wedi gwella. Enillais brofiad o ddefnyddio'r llyfr pryniant a'r llyfr gwerthiant yn ogystal â phrofiad ym maes cysoniadau banc. Gwybodaeth ddamcaniaethol yn unig oedd gennyf gynt, ond dwi bellach yn llawer mwy hyderus y gallwn weithio mewn amgylchedd masnachol.”

Penderfynodd Carolyn Wareman nad oedd ei dewis cyntaf o yrfa yn addas ar ôl cwblhau lleoliad gwaith deg wythnos yr haf diwethaf.

“Wrth fynd ar leoliad gwaith sylweddolais nad yw amgylchedd swyddfa yn apelio ataf; dwi'n hynod o falch i mi gymryd rhan yn y cynllun am iddo roi rhyw fath o syniad i mi o'r math o waith yr hoffwn ei wneud yn y dyfodol. Fe ges i gyfle i gyfarfod â chriw da o bobl hefyd!”

Manteision profiad gwaith dros yr haf gyda GO Wales:

  • Gwella'ch CV
  • Datblygu'ch sgiliau
  • Derbyn tâl am y cyfle (o leiaf £230 yr wythnos)
  • Gall arwain at waith pellach gyda'r sefydliad lle rydych chi'n cael y profiad gwaith
  • Mae gennych y cyfle i gwblhau Dyfarniad City and Guilds i achredu'ch profiad

Blas ar waith

Bydd profiad gwaith gwirfoddol yn dweud llawer wrth ddarpar gyflogwyr am eich cymeriad ac yn eich helpu i gael blas ar yrfa bosibl; mae gan swyddfa GO Wales eich Prifysgol leol gysylltiadau â busnesau lleol ac mae'n gallu trefnu profiad ar eich rhan.

Mae cyfnodau blas ar waith yn hyblyg, gan roi'r cyfle i chi drefnu'r profiad i gyd-fynd â'ch astudiaethau neu gymryd rhan dros gyfnod mwy hirdymor yn ystod misoedd yr haf. Gall rhai cyfnodau blas ar waith hyd yn oed arwain at waith pellach.

Am fwy o wybodaeth am eich swyddfa blas ar waith agosaf, ffoniwch linell gymorth GO Wales.

Rhoi nod tudalen gyda:

Share |