Mae cynllun a gefnogir gan y llywodraeth, sydd wedi helpu bron 6,500 o raddedigion i chwilio am gyflogaeth graddedig, wedi dathlu ei ben-blwydd yn 10 oed ym Mhrifysgol Glyndŵr.
Ers 2003, mae’r prosiect cyflogadwyedd graddedigion, GO Wales, wedi cael arian gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop i helpu i ddatblygu a chadw sgiliau a gwybodaeth lefel uchel graddedigion a’u potensial arloesol mewn busnesau, yng Nghymru, yn enwedig mewn busnesau bach a chanolig.
Daeth dros 30 o gynrychiolwyr o sefydliadau’r sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol a chanddynt fuddiannau ym Mlaenau Gwent i ‘Ddigwyddiad Brecwast Rhwydweithio Blaenau Gwent GO Wales’ yn Nhŷ Bedwellty, Tredegar yr wythnos hon, i ymuno yn nathliadau pen-blwydd GO Wales, sef rhaglen Cyflogadwyedd Graddedigion a Chymorth Busnes arloesol Cymru, yn 10 oed.
Y mis hwn, mae un o’r darparwyr lleoliadau i raddedigion mwyaf amlwg yng Nghymru yn dathlu ei ben-blwydd yn 10 oed. Er mwyn helpu i nodi’r garreg filltir hon, mae GO Wales, sef prosiect cyflogadwyedd graddedigion blaenllaw Cymru, wedi cysylltu ag oddeutu 6,500 o’r graddedigion sydd wedi elwa o Leoliadau Gwaith â thâl gyda busnesau lleol ledled y wlad, i ddarganfod sut mae pethau’n mynd.
10 mlynedd yn ôl roedd Nicole Rugman wedi graddio, ac ar y trên ar y ffordd i’w chyfweliad cyntaf ar gyfer swydd yn Nhredegar. Llwyddodd y trên i dorri lawr ym mhob gorsaf, ond ar ôl cyfweliad llwyddiannus cafodd gynnig y swydd. Roedd i ddechrau’r diwrnod canlynol fel rhan o Leoliad Gwaith gyda GO Wales ac nid yw wedi edrych yn ôl ers hynny.
Mae cwmni ymgynghoriaeth Cysylltiadau Cyhoeddus, sef Petersens, sydd wedi ei leoli yng Nghaerdydd, wedi ennill un o brif wobrau y Cyngor Cenedlaethol ar gyfer Profiad Gwaith (NCWE) 2013, gan eu nodi yn un o brif ddarparwyr gorau profiad gwaith yn y gweithle yn y DU.
Ar y cyd â degfed pen-blwydd prosiect pennaf Cymru ar gyflogadwyedd i raddedigion, mae GO Wales, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Gymdeithasol Ewrop yn lansio cystadleuaeth ffotograffiaeth sy’n galw ar bobl Cymru i dynnu lluniau o’r wlad yn ei holl ogoniant.
Bellach yn dathlu ei ben-blwydd yn gant a dau, mae nifer cefnogwyr Diwrnod Rhyngwladol y Menywod wedi tyfu. Felly, nid yw’n unrhyw syndod bod ethos y neges gadarnhaol hon yn rhan o waith llawer o sefydliadau modern fel GO Wales, sef y darparwr lleoliadau gwaith i raddedigion Cymru a ariennir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Gymdeithasol Ewrop.
Ers 2010 mae’r cwmni digwyddiadau myfyrwyr, Total Students, wedi recriwtio nifer o raddedigion trwy GO Wales, gyda’r lleoliadau gwaith deg wythnos cychwynnol yn arwain yn aml at waith mwy parhaol. Mae hyblygrwydd y cynllun yn golygu bod y Cyfarwyddwr, Sam Gould, wedi gallu recriwtio unigolion talentog ar adegau allweddol o ran datblygiad y cwmni.
Cawsom ni air gyda Sam yn ddiweddar i glywed mwy am sut mae’r busnes wedi tyfu a sut mae graddedigion wedi helpu i gefnogi hynny...
Pan fynychodd Becky Holmes leoliad gwaith GO Wales saith mlynedd yn ôl, ni allai ddychmygu y byddai’n teithio’r byd yn rhannu’r hyn maen ei wybod am y gwyddorau gydag athrawon, plant ac ymchwilwyr.