GO Wales

Lleoliadau Gwaith GO Wales

Lleoliadau Gwaith GO Wales yw cynllun profiad gwaith blaenllaw Cymru. Rydym yn cynnig cyfle i fyfyrwyr a graddedigion ennill profiad gwaith â thâl mewn prosiectau gwaith yng Nghymru. Mae ein lleoliadau wedi cael eu cynllunio i helpu i’ch gwneud chi’n fwy cyflogadwy.

Beth yw Lleoliad Gwaith?

Mae lleoliadau’n para oddeutu 10 wythnos, ac fel amser yn llawn amser. Mae’r cyflog yn £250 yr wythnos neu fwy. Mae nifer o fuddion yn gysylltiedig â lleoliad GO Wales. Dyma rai ohonyn nhw:

  • Rydych yn cael cyfle i ddatblygu eich sgiliau trwy weithio ar brosiect busnes gwirioneddol i gyflogwr lleol.
  • Rydych yn cwblhau cymhwyster byr yn y gwaith, wedi’i gynllunio i ategu ac ychwanegu gwerth at eich gradd, yn rhad ac am ddim.
  • Gallwch ychwanegu profiad gwaith hanfodol o ansawdd at eich CV.
  • Gallwch roi mantais wirioneddol i chi eich hun dros rai eraill sy’n chwilio am swydd yn y farchnad swyddi gystadleuol bresennol.
  • Mae llawer o leoliadau’n arwain at waith pellach gyda’r cwmni cynhaliol ond nid yw hyn wedi’i warantu.

Oherwydd y ffordd rydyn ni’n cael ein hariannu mae rhai cyfyngiadau o ran pwy sy’n gallu cymryd rhan yn y gwasanaethau a gynigir gan GO Wales. Chwiliwch yma am fwy o wybodaeth.

Ydych chi’n chwilio am swydd ac allan o waith ar hyn o bryd neu’n gweithio llai na 16 awr yr wythnos?

Os ydych wedi graddio ac yn 24 oed neu iau, mae Twf Swyddi Graddedigion Cymru’n cynnig chwe mis o brofiad gwaith cyflogedig i bobl ifainc sy’n ac yn barod am waith. Dysgwch fwy am Twf Swyddi Cymru fan hyn >

Darganfyddwch fwy am GO Wales yn Ewrop, rhaglen o leoliadau gwaith yn yr UE. Ymgeisiwch Nawr!

Chwilio Lleoliadau

Chwilio am yr holl Leoliadau GO Wales diweddaraf:

Astudiaethau Achos

Porwch drwy rai o’r astudiaethau achos sydd isod er mwyn gweld sut mae myfyrwyr a graddedigion wedi elwa ar Leoliadau Gwaith GO Wales: