Jason Alan Roberts
Sefydliad: View Creative
Mae View Creative yn asiantaeth dylunio graffeg a brandio sy’n cynnig gwasanaeth llawn ac a leolir yn nhref lan môr hardd Llandrillo yn Rhos, Gogledd Cymru. Ymunodd Jason Roberts â’r busnes ar leoliad deg wythnos i weithio ar ystod o brosiectau dylunio i gleientiaid.
Ymunodd Jason Roberts â’r busnes ar leoliad deg wythnos i weithio ar ystod o brosiectau dylunio i gleientiaid. Cafodd y dasg o greu’r holl waith dylunio graffeg gan gynnwys; hysbysebion, brandio a deunydd gweledol gwefannau.
“View Creative oedd y math o stiwdio ddylunio roeddwn wastad wedi breuddwydio am weithio ynddi, ond gan fod y diwydiant dylunio graffeg yn faes mor gystadleuol ni feddyliais erioed y byddwn yn cael y cyfle i fod yn rhan o fusnes fel hwn.”
“Bûm yn gweithio ar nifer o brosiectau gan gynnwys ystod o gylchlythyrau a phrosbectysau i Brifysgol Bangor, rhaglen ar gyfer Sioe Awyrennau Cotswolds, deunyddiau gweledol gwefannau ar gyfer nifer o safleoedd a datblygu cysyniadau ar gyfer ymgyrch hysbysu arfaethedig Gelert.”
“Rwy’n parhau i fod gyda View Creative, yn parhau i fod wrth fy modd, yn dal i ddysgu ac yn derbyn mwy o brosiectau heriol a hwyliog.”
Mae Amanda Jones sef Rheolwr Datblygu Busnes yn View Creative o’r farn bod Jason wedi gwneud cyfraniad gwerthfawr at y tîm dylunio:
“Mae gan Jason frwdfrydedd naturiol ar gyfer graffeg ac mae wedi integreiddio’n dda i amgylchedd y stiwdio. Swydd gyntaf Jason oedd cyhoeddiad mawr ar gyfer adran cyn-fyfyrwyr Prifysgol Bangor. Roedd yn gallu tynnu ar ei sgiliau dylunio presennol i ddylunio cylchlythyr yr adran sef ’Bangoriad’.”
“Adroddodd y cyhoeddiad ar straeon mawr am godi arian a nawdd o’r Brifysgol, a rôl Jason oedd cyflwyno’r wybodaeth hon yn greadigol. Roedd ei ymagwedd tuag at y prosiect yn broffesiynol a gwnaeth ein cleient fwynhau gweithio gyda Jason yn fawr. Mae Bangoriad wedi bod yn ddarn o ddylunio hynod lwyddiannus a gwnaeth Jason weithio’n galed i gryfhau ein cydberthynas busnes gyda’r Brifysgol.”