Kamen Ho
Sefydliad: HSJ Accountants
Mae HSJ Accountants yn gwmni cyfrifyddiaeth sy’n rhoi cyngor ar fusnes, treth a materion ariannol, wedi’i leoli yng Nghasnewydd a Chaerdydd. Yn ddiweddar gwnaethant gynnig lleoliad 12 wythnos i Gynorthwy-ydd Marchnata drwy gynllun GO Wales, a Kamen Ho oedd y deiliad llwyddiannus.
Roedd y lleoliad yn hynod ddefnyddiol i Kamen a dywedodd “roedd gweithio yn HSJ Accountants ar leoliad gwaith yn gyfle gwych i mi roi fy ngwybodaeth farchnata ar waith o fewn amgylchedd gwaith. Cefais lawer iawn o gymorth gan HSJ ac roedd fy rheolwr yn fentor gwych i mi”.
Roedd prif ddyletswyddau Kamen yn HSJ Accountants yn cynnwys marchnata ar-lein, cynnal a rheoli’r wefan, rheoli digwyddiadau, cysylltiadau cyhoeddus a chyhoeddi erthyglau blog. Mae Kamen wedi gorffen ei lleoliad erbyn hyn ac mae HSJ wedi ymestyn ei chontract. Hoff ran Kamen am y lleoliad gwaith oedd y profiad hynod werthfawr a enillodd a’r mentora a gafodd gan ei rheolwr.
Dywedodd Claire Griffiths, rheolwr marchnata HSJ, ‘Dylai sefydliadau ymgorffori cynllun lleoliad GO Wales yn eu dewisiadau recriwtio. Yn aml mae gan raddedigion lawer iawn o syniadau ac mae angen help llaw arnynt i gael y profiad gwaith gwerthfawr hwnnw. Am hyn maent yn cynnig syniadau ffres a sgiliau newydd. Mae’r cymhelliant ariannol y mae cynllun Go Wales yn ei gynnig yn fantais ychwanegol.”
Cyngor Kamen i unrhyw raddedigion eraill sy’n ystyried lleoliad gwaith yw ‘does gennych ddim byd i’w golli a llawer i’w ennill. Rwyf wedi dysgu cymaint o’r lleoliad hwn a byddwn yn bendant yn argymell bod graddedigion yn manteisio ar leoliad er mwyn cael profiad i ddilyn gyrfa yn eu rôl ddymunol’.