Kate Rees
Sefydliad: Vaughan Sound Installations Ltd
Gwnaeth Kate Rees, myfyrwraig a raddiodd mewn Newyddiaduraeth Cerdd a Darlledu, gais am leoliad gwaith Marchnata a Chysylltiadau Cyhoeddus 12 gyda grŵp PAI yn Llanelli er mwyn ehangu ei phrofiad. O ganlyniad i’w phrofiad mae gan Kate rôl farchnata amser llawn o fewn y cwmni a chymhwyster newydd i’w ychwanegu at ei CV. Dyma hi’n esbonio;
“Gweithiais i Grŵp PAI yn ystod fy lleoliad. Mae’r cwmni’n arbenigo mewn cynllunio, integreiddio a gosod systemau sain, goleuo a chlyweledol.”
“Roedd fy mhrosiect i yn canolbwyntio ar gynhyrchu deunydd hyrwyddo print a digidol ar gyfer y cwmni. Roedd fy nghyfrifoldebau marchnata ar-lein yn cynnwys ysgrifennu holl gynnwys gwefan brand newydd y sefydliad a rheoli amryw o gyfrifon cyfrwng cymdeithasol. Er mwyn hyrwyddo’r cwmni drwy brint, lluniais gopi a chefais ddelweddau o 10 astudiaeth achos a chylchlythyr, ac anfonwyd y rhain at gleientiaid yn y pen draw.”
“Roedd y lleoliad yn un buddiol dros ben i mi a mwynheais roi fy sgiliau newyddiadurol a marchnata ar waith. Roedd lansiad gwefan brand newydd y cwmni a’r astudiaethau achos mewn print yn ddau uchafbwynt i’r profiad, ac roedd yn dda gweld fy holl waith caled yn talu ffordd. Fodd bynnag, y canlyniad gorau oedd cael fy ngwahodd i aros yno i weithio’n amser llawn.”
“Fel rhan o fy lleoliad cwblheais y Wobr Datblygiad Proffesiynol , ac roedd wedi ei strwythuro’n dda dros ben a phrofodd ei fod yn fonws ychwanegol tra roeddwn ar leoliad gwaith. Roedd y cymhwyster yn fy annog i fyfyrio’n rheolaidd ar fy nghynnydd yn ystod y 12 wythnos a galluogodd fi i nodi pa agweddau o’r rôl roeddwn yn hyderus ynddynt a pha briodoleddau oedd angen mwy o waith a datblygiad. Gyda’r adrannau amrywiol yn cael eu rhannu drwy gydol y profiad, nid oedd cyflawni’r wobr yn broblem nac yn faich.”
“Cefais leoliad gwaith GO Wales yn brofiad ffantastig a alluogodd fi i ddefnyddio fy sgiliau presennol, datblygu ac ehangu ar fy rhai newydd o fewn amgylchedd gwaith, tra’n ennill cymhwyster credadwy newydd. Fel un a raddiodd yn ddiweddar sy’n edrych am waith, profodd yn gam amhrisiadwy ar y ffordd a chan ei fod yn lleoliad gwaith cyflogedig roedd yn ymarferol ac yn rhwydd i’w wneud.”
Mae Chris Ash , Cyfarwyddwr Gweithredodd Grŵp PAI yn fodlon iawn â chyraeddiadau Kate yn ystod ei phrofiad gwaith a dywedodd;
“Datblygwyd strategaeth farchnata effeithiol ac arloesol ac fe’i gweithredwyd yn llwyddiannus o ran print ac at bwrpasau ar-lein. Drwy gydol y lleoliad darparodd Kate gopi effeithiol ar gyfer deunydd cyhoeddus printiedig fel astudiaethau achos, cylchlythyron a datganiadau i’r wasg, a darparu cynnwys digidol eang ar gyfer gwefan brand newydd y cwmni a chyfrifon cyfryngau cymdeithasol
“Bydd Grŵp PAI yn bendant yn argymell GO Wales i fusnesau eraill. Mae’r cynllun lleoliad yn gyfle ffantastig i raddedigion lleol gael gwaith ac i fusnesau feithrin talent newydd.”