GO Wales

GO Wales Astudiaethau Achos

Stacey Morrissey

Stacey Morrissey

Dylunio Graffeg - Abertawe

Sefydliad: RAP International

"Roedd yn brofiad dysgu ardderchog a bydd yn fy rhoi mewn safle da ar gyfer swyddi yn y dyfodol.”

Yn ddiweddar cymerodd Stacey Morrissey, sy’n fyfyriwr Celf a Dylunio graddedig o Brifysgol Morgannwg, ran mewn lleoliad dylunio graffeg i ailddylunio cannoedd o eiconau ar gyfer pecyn meddalwedd a ddatblygwyd gan RAP International.

Cwmni blaenllaw yn Safonau Diogelwch Byd-eang  yw RAP International,  sy’n darparu meddalwedd asesu risg arbenigol ac ymgynghoriaeth  o ran rheolaeth ddiogel gwaith yn bennaf mewn amgylcheddau perygl uchel. 

Mae gan y cwmni gleient rhyngwladol ac mae eu meddalwedd ar gael mewn dros 20 o ieithoedd ac felly, drwy ddylunio cyfres o eiconau safonedig, byddai Stacey yn ei gwneud hi’n haws i gleientiaid ym mhob un o’r gwledydd  ddeall y cynnyrch.   

Mae RAP International wedi bod yn cyflogi myfyrwyr gydol yr haf dros nifer o flynyddoedd drwy raglen GO Wales. Esboniodd Anne Carter, Cyfarwyddwr RAP International;  “Rydym wedi derbyn nifer o fyfyrwyr neu raddedigion TG drwy GO Wales ac rydym wedi cynnig gwaith parhaol i’r rhai gorau ohonynt.”

“Stacey oedd y gorau o blith yr holl ymgeiswyr dylunio graffeg a gafodd eu cyfweld; roedd yn rhan o’r tîm ar unwaith, yn gwrando ar y briff ac yn ei ddeall, yn frwdfrydig ac mae wedi cynhyrchu gwaith rhagorol. Mae ein cynnyrch ni yn arbenigol iawn ac yn dechnegol. Gallai hyn fod wedi cymryd cryn dipyn o amser iddi ei feistroli, ond gyda chymorth a mentora gan weddill tîm RAP, ymchwiliodd a chyflwynodd y canlyniadau roeddem yn eu dymuno.”

O ganlyniad i’w phrosiect llwyddodd Stacey i ddatblygu ei sgiliau dylunio graffeg; ‘Erbyn diwedd fy lleoliad roeddwn wedi gorffen dylunio 250 eicon. Roedd hyn yn fwy na’r targed a osodwyd gan fy nghyflogwyr. Roedd yn brofiad dysgu ardderchog a bydd yn fy rhoi mewn safle da ar gyfer swyddi yn y dyfodol.”

Share |