GO Wales

GO Wales Astudiaethau Achos

Katy Simister

Katy Simister

Giamstar Gwasanaeth - Abertawe

Sefydliad: Printing.com

Cysylltodd y cwmni brandio a dylunio argraffu Colourbox Creative o Abertawe â ni gyda gorchwyl prosiect; roedd angen unigolyn graddedig arnynt i dderbyn cyfrifoldeb llawn am ddatblygu eu gwasanaeth mewnol ar gyfer ymholiadau cwsmeriaid; rhoi gweithdrefnau ar waith a fyddai’n helpu’r busnes i weithredu’n esmwyth a gwella’r elfen gwasanaeth i gwsmeriaid.

Ymunodd myfyriwr graddedig o Brifysgol Fetropolitan Caerdydd, sef Katy Simister, â’r cwmni ar leoliad gwaith cychwynnol o 10 wythnos ac mewn naw mis, mae hi wedi dod yn gaffaeliad i’r cwmni. Esbonia Daryl Edgecombe, Cyfarwyddwr y Cwmni: 

 “Dim ond am ryw naw mis mae Katy wedi bod gyda ni erbyn hyn ond mae’n anodd dychmygu sut roeddem yn ymdopi cyn iddi gyrraedd.”

 “Ddeudeg mis yn ôl,  gwelom fod gennym gymaint o ymholiadau i fynd i’r afael â nhw, roedd yn anodd rheoli ein llwyth gwaith dylunio ac argraffu, felly cysylltom â GO Wales am gymorth a chafodd ein swydd ‘giamstar gwasanaethau cwsmeriaid’ ei chreu.”

“Roedd CV Katy yn sefyll allan am y rhesymau cywir;  roedd wedi’i ysgrifennu’n dda a’i gydbwyso yn unol â’r rhinweddau a’r profiad roeddem yn edrych amdanynt.”

 “Pan gwrddom â Katy, roedd i’w gweld yn drwsiadus ac yn broffesiynol, yn dawel ond yn hyderus ac yn gyfeillgar yn naturiol ac roedd i’w gweld yn berffaith ar gyfer y rôl. Mae Katy yn gweithio’n galed ac mae bob amser yn ymroddedig i gynnig y gwasanaeth gorau. Mae cwsmer hapus yn golygu bod Katy yn hapus.”

 

Share |