GO Wales

GO Wales Astudiaethau Achos

Iestyn Roberts

Iestyn Roberts

Academi’n helpu animeiddydd uchelgeisiol i gyflawni mwy!

Roedd Iestyn Roberts yn cychwyn ar ei waith fel animeiddydd 3D llawrydd pan glywodd am Academi Gweithwyr Llawrydd GO Wales. Fel yn achos llawer o unigolion wrth iddyn nhw ddechrau ar y daith at hunangyflogaeth, bu bron iddo gael ei orlethu gan yr holl wybodaeth yr oedd yn rhaid iddo ei phrosesu. Roedd Iestyn yn awyddus i fynychu cwrs a fyddai’n cwmpasu’r cyfan a’i helpu i wneud y dechreuad gorau i’w yrfa mewn animeiddio.

Yn arbennig, roedd Iestyn eisiau manteisio ar sgiliau a phrofiad y tiwtoriaid i gael ‘safbwynt mewnol’. Eglurodd:

“I mi, roedd y cwrs yn ffantastig. Roedd yr holl athrawon yn wych, ac roedd ganddynt lawer o wybodaeth i’w rhannu â ni, ac roedd fy nghyd-fyfyrwyr yn griw gwych. Rhoddwyd rhai  taflenni gwych i ni, a llawer o dasgau ymarferol, yn y dosbarth yn ogystal â gwaith cartref - roedd y rhain o fudd mawr i mi, gan iddynt ein helpu i ddeall sut i fynd ati i sefydlu eich busnes eich hun.”

“Roedd y cwrs yn gymorth i mi gydnabod fy ngwendidau, a’r rheswm y dylwn eu cydnabod wrth ddechrau busnes, sy’n ffantastig. Nawr, rwy’n delio â ffyrdd gwahanol o fynd i’r afael â thasgau penodol, i wneud mwy ohonof i fy hun, a chyflawni tasgau’n llawer cyflymach, ac yn fwy cynhyrchiol. I mi, dysgu’r sgiliau hyn oedd y cymorth gorau a gefais ar y cwrs, oherwydd nawr gallaf ganolbwyntio ar dasgau pwysig, megis denu cleientiaid pwysig iawn i wneud i fy musnes ddigwydd.”

Ar hyn o bryd mae Iestyn yn gweithio ar gyfres o sgetshis byr wedi’u hanimeiddio yn yr iaith Gymraeg, a bydd y rhifyn cyntaf yn ymddangos ym mis Medi.

“Fy mhrif nod fyddai animeiddio ar gyfer ffilm fawr, neu greu golygfeydd ar gyfer gemau cyfrifiadur, ond ar hyn o bryd rwy’n hapus iawn i fod yn animeiddio, a chreu cyfres newydd sbon trwy gyfrwng y Gymraeg. Gan fod gen i gefndir mewn celfyddyd, rwy’n creu llawer o ddarluniau a chynlluniau, ac ar hyn o bryd rwy’n creu darluniau ar gyfer llyfr plant sydd wedi’i ysgrifennu gan actor a chyfarwyddwr teledu Cymreig poblogaidd, ac mae’n fraint fawr i wneud hyn.”

O ganlyniad i’r cwrs, mae’n teimlo’i fod wedi’i ysgogi ynghylch dyfodol ei yrfa lawrydd a’i gydbwysedd rhwng gwaith a bywyd. Dywed Iestyn:

“O ran y dyfodol, rwy’n bwriadu gorffen y sgetshis Cymraeg ffantastig hyn, a’u hyrwyddo cymaint ag y gallaf. O hynny ymlaen, rwy’n gobeithio tyfu - trwy greu rhai ffilmiau byr a gaiff eu dangos mewn gwyliau, er mwyn cael cymaint o gyhoeddusrwydd â phosibl, a fydd yn arwain at fwy a mwy o gleientiaid. Byddwn wrth fy modd i allu parhau i weithio o gartref, a pharhau â’r ffordd o fyw hapus sydd gen i ar hyn o bryd, trwy gadw cydbwysedd hapus rhwng gwaith a bywyd, a chael y rhyddid i fynd i’r mynyddoedd pan rwy’n dewis!”

“Dysgais lawer am fy hun wrth fynd ar y cwrs ac mae hyn wedi newid llawer o bethau i mi ers i mi fynd yn ôl i weithio, ac mae hynny wedi bod yn llesol. Rwy’n llawer mwy trefnus, ac yn well fyth, rwyf wedi fy ysgogi mwy!”

Share |